Chapter MovieMaker at Deaf Gathering Cymru: we want your short films!

  • Published:

MovieMaker yw arddangosiad misol Chapter o ffilmiau byrion a sgyrsiau gyda’r bobl greadigol y tu ôl iddynt. Ar gyfer Deaf Gathering Cymru fis Medi, rydyn ni’n chwilio am wneuthurwyr ffilm byddar i rannu eu gwaith gyda’n cynulleidfa mewn amgylchedd diogel a chefnogol.

Mae croeso i bob genre a lefel profiad, ac yn ddelfrydol dylai’r ffilm fod yn llai na 15 munud o hyd (ond fe wnawn ni ystyried rhai ychydig yn hirach). Gallwch gyflwyno ffilm am ddim, a byddwn ni’n cynnal trafodaethau ar ôl y dangosiad i roi cyfle i chi rannu eich safbwyntiau gyda’r gynulleidfa.

Mae dehongliad Iaith Arwyddion Prydain ar gael ar gyfer y digwyddiad, a byddwn ni’n gwirio gyda chi i weld a oes gennych chi anghenion hygyrchedd ychwanegol.

Anfonwch eich ffilmiau ac unrhyw gwestiynau i moviemaker@chapter.org. Rhaid i ni gael y cyflwyniadau erbyn dydd Llun 5 Awst.

Gŵyl yng Nghaerdydd dan arweiniad pobl fyddar yw Deaf Gathering Cymru, sy’n cael ei llywio gan Ganolfan Gelfyddydau Chapter, yr artist a’r ymgynghorydd creadigol byddar Jonny Cotsen, yn ogystal â’r ymgynghorydd hygyrchedd byddar Heather Williams. Mae’r dathliad pedwar diwrnod ar agor i bawb, ac yn adeiladu ar lwyddiant gŵyl Byddar gyda’n Gilydd y llynedd, gan gynnig rhaglen ddeinamig o ddiwylliant a sgyrsiau gyda safbwyntiau byddar yn ganolog iddi.

Deaf Gathering Cymru: Chapter MovieMaker call-out BSL flyer