A busy Chapter cafe.

Newidiadau i amseroedd gweini bwyd

Yn dilyn eich adborth, roedden ni eisiau esbonio pam y gwnaethon ni’r pen­d­er­fyniad diweddar i gau’r gegin am 6pm.

Ym mis Rhagfyr, fe gawson ni gadarnhad y bydd toriad o 44% i’n cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mewn termau real, mae hyn yn golygu colled o 50% yn ein hincwm diogel bob blwyddyn. Fel elusen, mae hyn yn her go iawn i ni ac rydyn ni wedi treulio’r misoedd diwethaf yn archwilio gwahanol ffyrdd y gallwn ni gynyddu incwm ac arbed costau, yn y gobaith y gallwn ni aros ar agor fel canolfan gelfyddydau a gofod dinesig pwysig.

Flynyddoedd lawer yn ôl, sefydlwyd ein caffi bar i gynhyrchu incwm, gyda’r elw yn cael ei gyfeirio’n ôl i’n rhaglen a’n gwaith elusennol. Tan 2020 roedd hyn yn llwyddi­annus iawn, ac roedd yn ffordd i ni ariannu’n gweithgareddau gydag artistiaid a chymunedau ar draws meysydd perfformio, celf weledol a ffilm, yn ogystal â rhaglenni ymgysylltu a dysgu. Ar ôl Covid, Brexit, ac mewn argyfwng costau byw, dydyn ni ddim yn gwneud dim elw yn y bôn, ac mae hyn, gyda’r toriad yn ein cyllid, yn cael effaith ddofn ar y sefydliad.

Rydyn ni wedi gorfod gwneud pen­d­er­fyniadau anodd iawn er mwyn gallu cadw’r drysau ar agor. Fe fuon ni’n monitro arferion ymwelwyr, ac roedd hi’n amlwg nad oedd aros ar agor i weini bwyd gyda’r nos yn bend­er­fyniad busnes da. Roedden ni’n colli arian, ac roedd hynny’n effeithio ar yr elusen.

Fel i lawer o’n cydweithwyr yn y byd lletygarwch, mae’r deunaw mis diwethaf wedi bod yn anodd iawn i ni, ac mae’n ddrwg ganddon ni ein bod wedi ei chael yn anodd darparu arlwy cyson o safon i chi. Fodd bynnag, ym mis Mawrth fe groesawon ni’r Prif Gogydd newydd Simmie Vedi, sy’n dod â chyfoeth o brofiad gyda hi o greu prydau blasus, tymhorol sy’n arddangos y gorau o gynnyrch Cymru.

Ers iddi ymuno â ni, mae Simmie wedi bod yn brysur gyda’i thîm yn paratoi i lansio ein bwydlen newydd sbon – cadwch lygad allan amdani dros yr wythnosau nesaf! Bydd yr arlwy newydd ar gael fel un fwydlen, drwy’r dydd, o naw tan chwech. Am y tro, fyddwn ni ddim yn gweini bwyd ar ôl chwech yr hwyr; mae angen i ni gan­olb­wyntio ein hegni lle mae’r galw mwyaf – sef yn ystod y dydd! Os byddwch chi’n llwglyd ar ôl chwech, byddwn ni’n gallu cynnig ambell fyrbryd cartref o’r bar i’ch helpu i gadw’r blaidd o’r drws!

Wrth i ni ailffocysu ac ailadeiladu, byddwn ni’n ystyried ffyrdd, yn y pen draw, o gyflwyno bwydlen amrywiol gyda’r nos. Gallai hyn gynnwys stondinau dros dro rheolaidd gyda’r nos yn arddangos rhai o fwyd stryd gorau Caerdydd, neu ddig­wyddiadau arbennig i ddod â ni i gyd at ein gilydd i fwynhau celf a sgwrs. Fe gadwn ni mewn cysylltiad am hyn!

Rydyn ni’n gwybod bod pawb yn ei chael hi’n anodd ar hyn o bryd ond os gallwch chi’n cefnogi ni drwy brynu paned, brecwast, cinio neu gacen, bydd hynny’n mynd yn bell. Yn well byth, beth am ddod yn un o Ffrindiau Chapter – yn ogystal â chynigion unigryw, byddwch chi hefyd yn cael gostyngiad o 10% ar fwyd a diodydd meddal yn y caffi. Gallwch weld sut i ymuno yma neu wneud cyfraniad i gefnogi’n gwaith elusennol yma.

AMSEROEDD AGOR NEWYDDNEW MENU

Dydd Llun – dydd Sadwrn 9am-6pm: bwydlen drwy’r dydd

Dydd Sul 9am-4pm: Brecwast yn ôl yr arfer a chinio dydd Sul yn unig rhwng 124pm

Diolch am eich gefnogaeth!

  • Published: