Dathlu Balchder yn Chapter

  • Published:

Fis Mai a Mehefin eleni, mae rhaglen Chapter yn llawenhau â BALCHDER, gyda phopeth o ffilmiau byrion LHDTCRhA+ a wnaed yng Nghymru i ddan­go­siadau sinema, arddangosfa a mwy. 

FFILM

Ddydd Llun 20 Mai am 6pm, bydd Gwobr Ffilm Fer Gwiar Chapter yn dathlu’r ffilmiau byrion LHDTCRhA+ gorau a wnaed yng Nghymru. Mae Chapter yn bartner enwebu ar gyfer Ffilm Fer Orau Prydain Gwobr Iris, ac rydyn ni’n chwilio am ffilm fer LHDTCRhA+ o’r rhanbarth. Bydd y ffilmiau ar y rhestr fer yn cael eu dangos yn nigwyddiad arbennig MovieMaker Chapter a bydd y ffilm fuddugol yn rhan o Raglen Goreuon Prydain yng Ngŵyl Gwobrau Iris a gaiff ei dangos ar Channel4 a Film4. Mae’r tocynnau i’r dangosiad am ddim, ac rydyn ni’n argymell eich bod yn archebu ymlaen llaw. Gallai’r rhaglen gynnwys deunydd sydd ond yn addas i bobl dros 18 oed. Ewch i wefan Chapter i weld y rhestr lawn o’r ffilmiau.

CELF

Ar gyfer eu harddangosfa unigol yn Chapter, mae Adham Faramawy wedi creu cyfres newydd o osodweithiau sy’n dod â gwaith fideo, paentio a cherflunwaith diweddar ynghyd. Gan archwilio clymau cysylltiedig y tir, afonydd, a llifoedd mudol drwy hanesion personol, myth a fflora, mae eu gwaith yn canolbwyntio ar y perthnasau cymhleth rhwng cyrff ymylol a lle. Mae Faramawy yn artist o dras Eifftaidd sy’n byw yn Llundain – yn 2023 nhw oedd derbynnydd Gwobr Artist Frieze. Mae’r arddangosfa am ddim a bydd hi yno tan 23 Mehefin. Does dim angen archebu.

PERFFORMIADAU

Bydd sioe stand-yp gyntaf mawr ei haros y ddigrifwraig anarferol Amy Mason, enwebai Act Newydd y BBC – sy’n trafod dod allan yn ei thridegau, magu plant, herio pobl homoffobaidd, a wynebu ei gorffennol gwyllt – yn dod i’r llwyfan nos Wener 14 Mehefin am 8pm.

Digrifwraig, awdur a gwneuthurwr theatr yw Amy. Mae hi wedi cyrraedd rownd derfynol Funny Women, mae ganddi sawl prosiect teledu ar waith, ac mae hi wedi ysgrifennu a pherfformio ar gyfer Radio 4, The News Quiz a Hypothetical. Mae hi wedi creu tair sioe hunangofiannol glodwiw gydag Old Vic Bryste – ac mae gan ei sianel 8.5 miliwn o wyliadau ar Tiktok!

Mae QWERIN gan Osian Meilir yn berfformiad dawns cyfoes sy’n dathlu diwylliant, hunaniaeth a chymuned, gan sylwebu ar y syniadau o Gwiardeb a Chymreictod. Yn llawn llawenydd, mae QWERIN wedi’i ysbrydoli gan batrymau llyfn y ddawns werin draddodiadol, wedi’u cyfuno ag egni bywiog bywyd nos Cwiar. Caiff ei berfformio â thrac sain gwreiddiol gan rai o gerddorion mwyaf blaenllaw Cymru, Tic Ashfield, Benjie Talbott a Shamoniks, a gyda gwisgoedd sy’n rhoi tro newydd ar y wisg draddodiadol Gymreig. Mae QWERIN yn wledd i’r synhwyrau!

Perfformiwr, gwneuthurwr dawns ac artist symud o Gymru yw Osian Meilir. Mae eu gwaith yn archwilio eu diddordeb yn y syniad o hunaniaeth, diwylliant a chymuned. Mae QWERIN yn berfformiad 35 munud, talwch-beth-allwch-chi, sy’n addas i’r teulu, a fydd yn digwydd yn yr Ardd Gymunedol brynhawn Sadwrn 15 Mehefin am 2pm a 4pm.

Perfformiad wedi’i lwyfannu mewn bar gwesty yw Hotelle gan Billy Morgan, sy’n archwilio’r benywaidd ranedig. Gyda cherddoriaeth a chwsg yn gefndir, mae’r darn yn chwarae ar ffigwr y femme unig, gan symud rhwng cyflyrau’r gadawedig, chwant, goroesi a gwrth-ddweud. Artist sy’n byw yn Amsterdam yw Morgan, sy’n gweithio ym maes perfformio a thestun i archwilio iaith, genre ac ystum a sut maen nhw’n cyfleu ystyr a phŵer. Bydd y digwyddiad yma nos Wener 21 Mehefin am 8.30pm.

Bydd Raven Spiteri yn DJio yn y caffi bar y noson honno rhwng 9pm ac 11pm (am ddim, dim tocynnau). Mae eu setiau’n ymgorffori iachâd ysbrydol a thrawsnewidiad drwy ddawns; taith drwy fynegiant unigol a dathliad ar y llawr dawnsio.

Bydd Billy hefyd yn cynnig gweithdy am ddim nos Iau 28 Mehefin, 6.30-8.30pm. Gweithdy perfformio yw Body Double sy’n ymdrin â’r pwnc dyblyg. Drwy ysgrifennu, symud a darllen ar y cyd, mae’r gweithdy’n archwilio sut gall llwyfannu’r hunan fel ‘dwbl’ agor tiriogaethau newydd ar gyfer ymyrraeth, trawsnewid a gwrth-ddweud. Mae croeso i bob lefel o brofiad, gyda gwahoddiad arbennig i unigolion Cwiar, Traws ac sy’n arddel hunaniaeth Femme. Cysylltwch â kit.edwards@chapter.org i archebu.

Rhwng 1988 a 2003, roedd deddfwriaeth Adran 28 yn gwahardd awdurdodau lleol ac ysgolion rhag “hyrwyddo cyfunrywioldeb”. Mae Section 28 and Me yn bortread chwareus, gonest a thwymgalon, sy’n archwilio straeon cwiar am anweledigrwydd a chywilydd y gorffennol, a bydd yn cael ei gynnal nos Sul 30 Mehefin am 7.30pm.

Yn y sioe newydd yma, mae’r gwneuthurwr theatr Tom Marshman yn casglu lleisiau o sawl cenhedlaeth at ei gilydd i archwilio eu straeon Adran 28; gan gysylltu ei brofiadau hynod bersonol ei hun gyda hanes a gwleidyddiaeth i ddathlu’r gymuned LHDTCRhA+ gwydn ac unigryw.

Bydd Tom yn cynnal te parti brynhawn Sadwrn 29 Mehefin, 2-4pm, i drafod effaith Adran 29 ar y gymuned Gwiar, gan ddod â hanesion anghofiedig yn weladwy a’u cysylltu â materion dybryd y presennol.

Mae House of Milan a Chapter yn cynnal – am y tro cyntaf yng Nghaerdydd – Teyrnged i’r Eiconau a’r Arwyr Mini Ball Deluxe, ddydd Sadwrn 10 Awst o 3pm ymlaen, sy’n talu teyrnged i arloeswyr, eiconau ac arwyr byd y ddawnsfa. Bydd y Mini Ball Deluxe yn cynnwys sesiwn holi ac ateb ac 13 Categori Agored i Bawb (OTA).