BFI: Powell & Pressburger
Rydyn ni’n eich gwahodd chi i ailddarganfod y gwaith yma gyda ni, a dathlu rhan allweddol o’u ffilmiau, yr arwr o Gymru Roger Livesey, wrth i ni edrych ar themâu a chelfyddyd ogoneddus y stiwdio ffilm Brydeinig orau erioed.
- Published:
Fe arweiniodd y bartneriaeth rhwng y ddeuawd ysgrifennu-cyfarwyddo-cynhyrchu Michael Powell ac Emeric Pressburger a’u teulu creadigol estynedig The Archers at faniffesto creadigol a rhai o’r delweddau mwyaf eiconig a dylanwadol a welwyd mewn ffilm erioed. Daeth y gwneuthurwyr ffilm beiddgar a gwreiddiol yma at ei gilydd ar hap: cyfarwyddwr cyffredinol oedd Powell yn wreiddiol, a oedd wedi gweithio mewn swyddi amrywiol mewn stiwdios ffilm; newyddiadurwr o Hwngari oedd Pressburger, a ddihangodd rhag y Natsïaid ac a drodd yn ysgrifennwr i’r sgrin.
Ar ôl cwrdd ar set ffilm yn 1939, rhoddon nhw eu synwyrusrwydd Prydeinig ac Ewropeaidd at ei gilydd i greu sinema flaengar a chwaethus oedd â diddordeb dwys mewn gwirionedd, harddwch a chariad. Yn hynod ddylanwadol, ac yn boblogaidd ymhlith gwneuthurwyr ffilm fel Martin Scorsese (y mae ei olygydd Thelma Schoonmaker yn wraig weddw i Michael Powell), Wim Wenders, Wes Anderson a Greta Gerwig, y bu i’w ffilm lwyddiannus Barbie gael ei hysbrydoli’n uniongyrchol gan eu gwaith.
Dangos fel rhan o Cinema Unbound: The Creative Worlds of Powell + Pressburger, tymor o ffilmiau ledled y DU a gefnogir gan y Loteri Genedlaethol a Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm y BFI bfi.org.uk/powell-and-pressburger