Ein hymgyrch Arts for Impact drwy Big Give yn fyw!
- Published:
Mae hyn yn golygu, tan ganol dydd, 25 Mawrth, y bydd pob rhodd sy’n cael ei rhoi i’n BigGive.org yn cael ei dyblu.
Eich £5 yn dod yn £10, eich £25 yn dod yn £50 ac eich £50 yn dod yn £100.
Bydd eich rhodd, bach neu fawr, yn cael dwywaith yr effaith ac yn ein helpu ni i gynnal Deaf Gathering Cymru 2025 – gŵyl dan arweiniad pobl Fyddar i bawb!
Mae pobl Fyddar yng Nghymru yn wynebu llawer o rwystrau rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol fel artistiaid a chynulleidfaoedd.
Dros dridiau ym mis Tachwedd, byddwn ni’n dathlu doniau Byddar ar draws maes celf, perfformio, cerddoriaeth, dawns, comedi a ffilm, ac yn creu llefydd i ymlacio, bod gyda’n gilydd, a sgwrsio. Ein nod yw dod â phobl Fyddar ac sy’n clywed at ei gilydd i gefnogi iechyd a llesiant, rhoi lle canolog i greadigrwydd Byddar, ac adeiladu cymuned gryfach ledled Cymru.
Beth allwch chi ei wneud nawr?
- Rhoi drwy ein tudalen ymgyrch
- Rhannwch yr ymgyrch gyda’ch ffrindiau, eich teulu neu rwydweithiau cymdeithasol – unrhyw un a allai fod â diddordeb mewn rhoi rhodd a fyddai’n cael ei dyblu!
- Rhannwch ein neges ar Facebook, Instagram, Threads neu LinkedIn.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni trwy fundraising@chapter.org
Diolch o galon am eich cefnogaeth!
Add to Calendar
-
Amdanom
Sefydlwyd ni gan artistiaid ym 1971, ac rydyn ni’n ganolfan ryngwladol ar gyfer y celfyddydau cyfoes a diwylliant.
-
Cymuned
Rydyn ni’n gweithio i sicrhau bod cymuned wedi’i gwreiddio ar draws yr holl waith rydyn ni’n ei wneud.
-
Ffrindiau
Rhowch eich cyfeillgarwch yn rhodd a dewch â chelf gyfoes, perfformiadau a ffilmiau anhygoel i Gymru.
-
Rhoddi
Mae pob ceiniog rydych chi’n ei gwario yn cefnogi ein gwaith ac yn ein galluogi ni i fod yn ganolfan fywiog i’n cymuned