Artist Preswyl: Dan Johnson
- Published:
Rydyn ni'n cyffroes i gyhoeddi bod ein artist preswyl am tymor Hydref/Gaeaf yw Dan Johnson!
Mae Dan Johnson yn offerynnwr taro, yn artist perfformio, yn addysgwr ac yn hwylusydd gwrando dwfn sy’n byw rhwng Bryste a Chaerdydd. Mae’n adnabyddus am wthio ffiniau offerynnau taro drwy gelf perfformio hirbarhaus sy’n ymgorffori sain a symudiad. Gwnaeth breswylfa yn Sefydliad Marina Abramovic yng Ngwlad Groeg yn ddiweddar, a bu’n astudio gyda’r Ganolfan Gwrando Dwfn, Efrog Newydd yn 2022. Mae ymagwedd Dan yn gwbl hyblyg ac yn canolbwyntio ar archwiliad ystyrlon. Mae cynulleidfaoedd wedi disgrifio ei berfformiadau fel bregus, hael, hirbarhaus a rhydd.
Dros gyfnod o chwe mis, bydd Dan yn Artist Preswyl yn Chapter, gan gyfrannu ymyriadau a darpariaethau cyhoeddus drwyddo draw. Yn ystod y cyfnod yma, bydd yn gweithio tuag at gyfansoddiad ensemble newydd, ac yn arwain cyfres o weithdai am ddim i bobl ifanc. Bydd Ecstatic Drum Beats yn cyflwyno technegau taro a pherfformio arbrofol, gan ganolbwyntio ar chwarae, gwrando, cyfunoldeb ac ymgorfforiad i archwilio llwybrau amgen a hygyrch i gerddoriaeth a pherfformio byw.
___
Ymunwch â Dan ar ddydd Sul 10 & 24 Tachwedd ac hefyd dydd Sul 1 Rhagfyr am sesiwn bath gong bore.
Ar ddydd Llun 28 Hydref, Llun 25 Tachwedd a dydd Sadwrn 14 Rhagfyr mae ein Artist Preswyl, Dan Johnson, am berfformio ei Practice o gwmpas yr adeilad.
Mae Dan yn cynnal sgwrs artist ar ei arfer rhyngddisgybliaeth sy'n rhychwantu sain, celf perfformio ac addysg ar ddydd Sadwrn 14 Hydref.