A dimly lit, full cinema. Two people are stood on stage in front of the cinema screen talking to the audience. Behind the speakers is a still image from the Barbie Movie.

Newidiadau bach i’n cynnig yn ein sinemâu a theatr

  • Published:

Lluniaeth

Rydyn ni wedi gwrando ar eich adborth, ac felly o 1 Mehefin ymlaen, bydd modd i chi ddod â bwyd a diod i’r sinemâu.

Gofynnwn i chi fod yn ystyriol o bawb, a byddwn ni’n darparu’r byrbrydau mewn tybiau ailgylchadwy, i sicrhau na fydd pecynnau swnllyd yn tarfu ar y ffilm. Er mwyn eich diogelwch, peidiwch â mynd â gwydr i’r awditoria – gofynnwch am eich diod mewn cwpan plastig wrth y bar!

Mae ganddon ni lawer o fyrbrydau ar gael o gownter y caffi – a bob tro byddwch chi’n prynu rhywbeth ganddon ni, byddwch chi’n ein helpu ni i allu cynnig y ffilmiau gorau o bob rhan o’r byd.

Mwynhewch y ffilm!


Prisoedd sinema newydd

Ym mis Mehefin, yn anffodus rydyn ni’n gorfod cynyddu prisiau ein tocynnau sinema. Rydyn ni wedi eu cadw nhw’n isel dros y ddwy flynedd ddiwethaf am ein bod ni eisiau i’n sinemâu fod yn hygyrch i gymaint o bobl â phosib. Ond yn dilyn cynnydd sylweddol mewn costau gweithredu, nid yw hyn yn bosib mwyach. O 1 Mehefin ymlaen, y prisiau newydd fydd £9 (pris llawn) a £7 (consesiynau), drwy’r dydd, bob dydd.

Rydyn ni wedi meincnodi ein prisiau yn erbyn sinemâu annibynnol eraill, ac rydyn ni’n dal i gynnig rhai o’r tocynnau rhataf ym Mhrydain. Gallwch hefyd deimlo’n dda gan wybod bob tro y byddwch chi’n prynu tocyn, eich bod chi’n ein cefnogi ni’n uniongyrchol i gyflwyno’r ffilmiau, y gwyliau a’r digwyddiadau gorau o Gymru a thu hwnt.

Beth am ddod yn Ffrind Chapter, lle byddwch yn elwa ar archebu am ddim (mae ffi arferol o £1 y trafodiad), yn ogystal â llawer o gynigion arbennig eraill ar ffilmiau, perfformiadau a digwyddiadau. I ddysgu mwy, ewch i https://www.chapter.org/cy/sup...