Eich digwyddiad
Darllenwch ymlaen i weld yr amrywiaeth o ddigwyddiadau y gallwch eu cynnal yn Chapter.
Dros y blynyddoedd, mae llawer o ffotograffwyr a chwmnïau cynhyrchu wedi defnyddio Chapter fel cefndir neu leoliad ffilmio. Yn ddiweddar, efallai y byddwch wedi’n gweld ni yn Iaith ar Daith ar S4C, rhaglen ddogfen y BBC, A Killing in Tiger Bay, a hyd yn oed His Dark Materials.
Oherwydd siâp a steil anarferol yr adeilad (cymysgedd o hen Ysgol Uwchradd Canton a’n diweddariadau modern ni), mae ganddon ni ystod anhygoel o ofodau: gallai’r ystafelloedd gyda nodweddion cyfnod, cyntedd mawr ac agored, neu’r gerddi hardd helpu i wireddu eich gweledigaeth.
Mae ganddon ni ddwy sgrin yma yn Chapter, gyda lle ar gyfer cadeiriau olwyn a dolenni sain cymorth clyw yn y ddwy.
Mae ein sinemâu yn wahanol iawn o ran maint ac arddull, ond mae’r ddwy’n berffaith ar gyfer dangosiadau preifat, cyflwyniadau diwydiant, neu gynadleddau corfforaethol.
Bydd eich digwyddiad yn cael ei gefnogi’n llawn gan y tîm Gwasanaethau Ymwelwyr, gyda thaflunwyr mewnol profiadol iawn yn gallu cynorthwyo ag opsiynau technegol a goleuo.
Mae ganddon ni ystod o ofodau sy’n addas ar gyfer eich anghenion cyfarfodydd a chynadleddau. Mae’r rhain yn amrywio o ran cymeriad a maint, felly mae’n well archwilio’r ystod o ofodau sydd ganddon ni yma neu siarad ag aelod o’r tîm Gwasanaethau Ymwelwyr a fydd yn hapus i’ch cynghori.
Gallwn gynnig gofod ag offer llawn a fydd yn rhoi popeth sydd ei angen arnoch i gael cyfarfod creadigol a llwyddiannus.
Gall ein gofodau llogi fod yn addas ar gyfer pob math o achlysuron arbennig, o bartïon pen-blwydd i ddigwyddiadau ymddeol, derbyniadau priodas i aduniadau teuluol.
Mae ein hystafelloedd yn amrywio o ran cymeriad a maint, felly mae’n well archwilio’r gofodau sydd ganddon ni yma neu siarad ag aelod o’r tîm Gwasanaethau Ymwelwyr a fydd yn hapus i’ch cynghori.
Mae ganddon ni ddau ofod theatr blwch du sy’n berffaith ar gyfer perfformiadau cyhoeddus.
Mae gan ein theatrau systemau goleuo a sain cynhwysfawr ynghyd â chysylltiad rhyngrwyd ardderchog.
Mae llogi’n cynnwys cymorth gan un o’n technegwyr profiadol, a gallwn gynnig gwaith cynllunio goleuo pwrpasol am gost ychwanegol.
Cofiwch, os hoffech i ni hysbysebu eich digwyddiad drwy ein sianeli marchnata, fydd llogi a defnydd o’n gofodau theatr ddim yn seiliedig ar argaeledd yn unig. Byddwn ni bob amser yn ystyried ansawdd artistig, addasrwydd i’r gynulleidfa, ac a yw eich archeb yn gweddu i’n safonau a’n hamserlen raglennu dymhorol.
Mae ganddon ni lawer o ofodau sy’n addas ar gyfer ymarferion, ac mae llawer o sioeau theatr diweddar yng Nghymru a’r tu hwnt wedi eu defnyddio yn ystod y camau datblygu cynnar. O’n theatrau i ystod o ystafelloedd mwy clòs llawn cymeriad, gallwn ddarparu ar gyfer eich anghenion penodol. Mae’n well siarad gydag aelod o staff i weld pa ofod sy’n gweddu i’ch gofynion chi, gan gynnwys offer, llawr, a gallu technegol.
Parcio
Mae gennym faes parcio mawr am ddim y tu ôl i’r adeilad, er mwyn sicrhau bod modd i’ch gwesteion gyrraedd yn hwylus. Mae chwech lle ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas, gyda thri lle parcio Bathodyn Glas arall yn y maes parcio blaen.
Hygyrchedd
Mae ein holl ystafelloedd llogi yn hygyrch ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn, gyda dyfeisiau gwrando cynorthwyol a thai bach hygyrch yn agos.
Ymholiadau
Rydyn ni’n hapus i ddarparu lletygarwch i’ch ystafell. Rydyn ni’n cynnig te, coffi, diodydd meddal ac alcoholaidd, a brecwast, cinio a swper. Mae opsiynau wedi’u haddasu i chi hefyd ar gael. Mae ganddon ni fwydlenni llysieuol, figan a di-glwten helaeth a gallwn ddarparu opsiynau halal. Rhowch wybod i ni beth sydd ei angen arnoch chi, a gallwn greu rhywbeth addas.
Gweler ein bwydlen lletygarwch.
___
Mae Chapter yn elusen gofrestredig – drwy gynnal eich digwyddiad yma, byddwch chi’n ein helpu i barhau i gefnogi artistiaid Cymru a chymunedau creadigol drwy arddangosfeydd, digwyddiadau a chyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol.
-
-
Llogi gyda ni
Mae Chapter yn elusen gofrestredig – drwy gynnal eich digwyddiad yma, byddwch chi’n ein helpu i barhau i gefnogi artistiaid a chymunedau creadigol Cymru.
-
-
Hygyrchedd a chyfleusterau’r adeilad
Y wybodaeth ddiweddaraf ar sut i archebu, prisiau tocynnau, a’n telerau ac amodau newydd ar gyfer tocynnau.
Cewch y Newyddion Diweddaraf
Cofrestrwch i fod y cyntaf i wybod am ddigwyddiadau, arddangosfeydd, ffilmiau a pherfformiadau i ddod, yn ogystal â gostyngiadau i’r rhestr e-bost yn unig, a mwy!