Llogi gyda ni

Mae Chapter yn elusen gofrestredig – drwy gynnal eich digwyddiad yma, byddwch chi’n ein helpu i barhau i gefnogi artistiaid Cymru a chymunedau creadigol drwy arddangosfeydd, digwyddiadau a chyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol.

Rydyn ni’n cynnig ystod o ofodau gwych, sydd ar gael saith diwrnod yr wythnos, y gallwch eu defnyddio ar gyfer cyfarfodydd, gweithdai, dosbarthiadau, ymarferion, perfformiadau, digwyddiadau arbennig, partïon preifat, neu hyd yn oed fel lleoliad ffilmio.

Mae ein gofodau’n amrywio o ran maint, steil ac ymarferoldeb, gyda rhai’n cynnig llenni blacowt, lloriau sbring, offer clyweledol, a bar hyd yn oed, ac mae modd i unigolion, busnesau, cwmnïau neu grwpiau cymunedol ddefnyddio pob un ohonynt.

Bydd ein Tîm Gwasanaethau Ymwelwyr wrth law i roi’r cymorth sydd ei angen arnoch i dynnu’r straen o drefnu digwyddiad.

Pecyn Hurio

Drwy gynnal eich digwyddiad yma, byddwch chi’n ein helpu i gefnogi artistiaid Cymru a chymunedau creadigol - diolch!

Pecyn Hurio 2024
Cyflwyniad i Huriau Chapter

Gwneud ymholiad

Rydyn ni’n cynnig ystod o ofodau gwych, sydd ar gael saith diwrnod yr wythnos, y gallwch eu defnyddio ar gyfer cyfarfodydd, gweithdai, dosbarthiadau, ymarferion, perfformiadau, digwyddiadau arbennig, partïon preifat, neu hyd yn oed fel lleoliad ffilmio.

Our spaces

Lletgarwch

Opsiynau Lletgarwch

Os byddwch chi’n cynnal digwyddiad gyda ni, mae modd trefnu lletygarwch ymlaen llaw. Mae ein bwydlen yn cynnig detholiad o de, coffi, diodydd meddal, brecwast, cinio ac opsiynau bwffe poeth ac oer. Gallwn drafod bwydlen bwrpasol gyda chi os oes gennych rywbeth arbennig mewn golwg. Mae detholiad o win, cwrw a choctels (neu moctels) ar gael hefyd.

I weld ein Bwydlen Lletygarwch, cliciwch isod

A cafe assistant serves two customers at the till in Chapter, to the right is a glass cabinet full of cakes and biscuits.

Classes at Chapter

Browse all the public classes and groups that call Chapter their home

Cliciwch yma