Perfformiad

Mae ein rhaglen berfformiadau yn lle ar gyfer arferion celf fyw arbrofol a rhyngddisgyblaethol, lle caiff artistiaid eu cefnogi i gymryd risgiau a lle gall cynulleidfaoedd ddod o hyd i raglenni cyffrous, gwreiddiol a hygyrch.

Digwyddiadau

Filter events by date

Seasons

Accessibility

Amdanom Theatrau Chapter

Rydyn ni’n cyflwyno cerddoriaeth, sain, symudiad, dawns, theatr, sgwrs, gweithdai a digwyddiadau mewn cyd-destunau byw. Mae ein hymrwymiad i berfformiadau arbrofol yn rhan o’n hanes cyfoethog o gefnogi arferion celf fyw radical, a’n safle unigryw yng Nghaerdydd fel lleoliad celfyddyd aml-gyfrwng sydd â’r capasiti i gefnogi artistiaid i ddatblygu eu harfer a rhannu eu gwaith yn ddeinamig.

Rydyn ni’n cefnogi artistiaid sy’n ymwneud â’r syniad o arfer byw: beth mae bod gyda chynulleidfa yn ei olygu? Sut gall y ddeinameg yma fod yn lle i synhwyro/dysgu/bod gyda’n gilydd – i feddwl yn feirniadol ac yn gasgliadol? Mae ein rhaglen perfformiadau yn galw ar ein rhaglen ehangach ac yn ymateb iddi, sy’n cynnwys celf weledol a ffilm, gan ffurfio cytser o syniadau ac arferion. Mae ein gwaith yn hyblyg, yn gydweithredol ac yn ymroddedig i’n cymuned – artistiaid, cynulleidfaoedd, cymdogion, staff, a gweithwyr diwylliannol – ar garreg ein drws, yng Nghymru a thu hwnt.

  • Llogi gyda ni

    Mae Chapter yn elusen gofrestredig – drwy gynnal eich digwyddiad yma, byddwch chi’n ein helpu i barhau i gefnogi artistiaid a chymunedau creadigol Cymru.

  • Talebau Anrheg

    Pa rodd gwell na pherfformiadau radical, ffilmiau indi, dramâu newydd a tymhorau ffilm.

Digwyddiadur - cipolwg

Gweld ein byw rhaglen ffilmiau a digwyddiadau, gyda chanllaw digwyddiadau byw sy’n darparu gwybodaeth ddiweddaraf amdan y lleoliad, dyddiad, amser a gwybodaeth hygyrch am bob digwyddiad, gan gynnwys ffilm!
Gweld mwy