Cymuned Creadigol

Rydyn ni mor falch o fod yn gartref i gymuned ddeinamig o gwmnïau ac artistiaid preswyl, sy’n cynhyrchu gwaith mwyaf cyffrous yng Nghymru a gwledydd Prydain. Gan amrywio o animeiddio a dylunio graffeg, ffilm a theledu i theatr a chelf weledol, mae ein cymuned greadigol wrth wraidd popeth rydyn ni’n ei wneud.

Rydyn ni’n aml yn cydweithio gyda nhw i gyflwyno a chynhyrchu gwaith comisiwn, digwyddiadau a gweithgareddau sy’n digwydd yma yn Chapter, felly cofiwch ddweud helo, a dysgwch fwy am beth maen nhw’n ei wneud isod.

Mae ein 43 o stiwdios yn gartref i dros 50 o breswylwyr, ac yn aml fe welwch lawer o breswylwyr ein stiwdios yn cwrdd yn y caffi bar neu’n dod at ei gilydd yn ein digwyddiadau cymdeithasol rheolaidd.

Rydyn ni hefyd yn rhan o’r sector creadigol ehangach yng Nghaerdydd a’r de-ddwyrain, gyda’n cymdogion gwych fel Oriel Canfas, Print Market Project, y Bone Yard, y Corp a Neuadd Llanofer.

Creative Community

Filter by tag

Gwnewch gais am stiwdio

Cofiwch fod rhestr aros fer fel arfer, felly allwn ni ddim gwarantu y bydd stiwdio ar gael yn syth bob amser.