Ein Gardd Cymunedol
Y tu allan, rydyn ni’n falch o weithio gyda Garddwyr Cymunedol Treganna sy’n meithrin ein mannau gwyrdd ac yn rhannu eu gwybodaeth drwy waith allgymorth gydag ysgolion a’n cymunedau lleol. Maen nhw’n gofalu am ein gwenyn hyfryd hefyd!
Rydyn ni’n falch iawn o’n gardd gymunedol hyfryd, ac yn ddiolchgar am sgiliau a chefnogaeth ein garddwyr gwirfoddol. Gobeithio gallwch chi ymlwybro ychydig, gan fwynhau ein mannau gwyrdd, a hyd yn oed pigo ffrwyth neu lysieuyn ar yr adeg iawn!
Mae llawer o gyfleoedd i’n helpu ni yn yr ardd – os ydych chi wrth eich boddau'n dyfrio a chwynnu, bydd lle arbennig i chi yn ein calonnau! Ein hamseroedd galw heibio i arddio yw nos Lun 6.30-7.30pm a bore Iau 9.30-11am.
Rydyn ni'n gweithio hefyd gyda llawer o ysgolion a grwpiau lleol sy'n dod i dorchi llewys (mae casgliad gwych o offer garddio i blant ganddon ni), i ddysgu am blannu a gofalu am hadau a blodau, neu i ddysgu am ein gwenyn (mae gwisgoedd gwenyn i blant ganddon ni hefyd).
Cafodd ein gardd gymunedol ei chreu gyda chariad, a gweledigaeth ac ysbrydoliaeth Gerddi Cymunedol Treganna. Mae llawer o wybodaeth am yr ardd ar eu gwefan neu tudalen Facebook.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch drwy info@cantoncommunitygarden.co.uk neu ffoniwch ein garddwr cymunedol, Roger Phillips, ar 07704 259 159.
___
Credyd Llun: Kirsten McTernan, Gwenllian Spink + Yellow Back Books, Experimentica 24.