The Writers Circle

Casgleb o sgwenwyr celf sy’n byw yng Nghymru yw’r Cylch Sgwenwyr, sy’n cynnull yn fisol i brofi a chyfnewid gwaith ysgrifennu newydd ac arbrofol mewn ymateb i raglen Chapter.

Mae’r grŵp yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb mewn ysgrifennu am/gyda/o gwmpas celf.

Os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â Kit.Edwards@chapter.org.

Cwrdd â’r awduron

Perfformiwr a gwneuthurwr dawns rhyngddisgyblaethol yw Anushiye Yarnell, y mae ei gwaith yn deillio o brofiad personol, mytholeg y gorffennol a’r dyfodol. @anushiyeyarnell

K Wood, cerddor, person creadigol a threfnydd celfyddydau cymunedol sydd â diddordeb mewn cyfiawnder cymdeithasol, gofal cymunedol, a symud tu hwnt i strwythurau cymdeithasol deuaidd.
@obeycobra | @future_arts_collective_cymru

Lisa Tustian, artist sy’n byw ac yn astudio yng Nghaerdydd, sydd â diddordeb yn y naratifau sy’n cael eu hawgrymu gan yr anghydweddol, y darganfyddedig, a chydweithredwyr diarwybod.
@walking.magpie

Lucy Smith, awdur ffuglen a hwylusydd ac mae’n byw yng Nghaerdydd.
lucysmithwriter.com | @lucysmithwriter

Awdur, perfformiwr, model bywyd a gwneuthurwr theatr yw Stephanie Penhaligon, sy’n byw yng Nghaerdydd ac wedi’i magu yng Nghernyw. Mae’n chwarae gyda symudiad mewn geiriau ac mewn llonyddwch.

Ymateb i raglen perfformiadau’r hydref/gaeaf

The Bad B Kiki Ball, 25 Hydref 2024

Agwedd, pryd a gwedd. Daeth Welsh Ballroom Community x Supreme 007 & Tayo 007 â'n detholiad o ferched drwg a chyfrwys yn fyw ar lawr y ddawns!

'There were sherbet tracksuit jumping beans, spider mammas, silver
vixens, daring glimpses of fur, evil queens, bespoke tailors hot under the
collar. It was salvaged fairy tale material, too subtle and jarring to be
pantomime.'

Darllenwch ymateb Anushiye Yarnell

'They strike the match we fan their flames. Clap b*tches clap. Twist strut dip bounce kick hold that pose for me.'

Darllenwch ymateb Lucy Smith

___

Ocean Hester Stefan Chillingworth: Blood Show, 31 Hydref - 1 Tachwedd 2024

Mae Blood Show yn ddathliad traws o ddinistrio pethau, gan gynnwys ni ein hunain, er mwyn creu rhywbeth newydd

'Where is this?
A world of inbetweens– of
Warming up
Limbering up
Focusing in'

Darllenwch ymateb Steph Penhaligan

___

Eve Stainton: Impact Driver, 15 - 16 Tachwedd 2024

Gwaith coreograffig sy’n cynnwys gwaith weldio, symud, a sain byw

'Sometimes writhing, like a knot of vipers. Or a maggot-like huddle of newborn puppies.'

Darllenwch ymateb Lisa Tustian

  • Oriel

    Mae Oriel Chapter ar agor ddydd Mawrth i dydd Sul, 11yb - 5yp.

  • A dimly lit, full cinema. Two people are stood on stage in front of the cinema screen talking to the audience. Behind the speakers is a still image from the Barbie Movie.

    Sinema

    Dewch i ddarganfod eich hoff ffilm newydd neu ailddarganfod hen glasur, a phrofi sinema gwbl unigryw.

    Cymerwch gip ar y digwyddiadur ffilmiau.

  • Performers are stood on stage with pink and purple smoke surrounding them.

    Theatr

    O artistiaid lleol sy’n dechrau arni i gynyrchiadau teithiol rhyngwladol, o gabare comedi i waith newydd.

    Cymerwch gip ar y digwyddiadur perfformiadau.