Cymuned

Rydyn ni’n gweithio i sicrhau bod y syniad o gymuned yn cael ei wreiddio yn yr holl waith rydyn ni’n ei wneud – ac felly dyma yw ein man cychwyn wrth geisio deall diwylliant, rhaglennu, y lleoliad, a phopeth arall. Rydyn ni’n ymroddedig i weithio mewn ffyrdd trawsnewidiol a hirdymor gyda’r bobl sydd ar garreg ein drws. Mae hyn yn helpu i sicrhau ein bod ni’n sefydliad sy’n gweithredu ar sail anghenion heddiw, ac sy’n gwneud lle ar gyfer dyfodol i bawb.

Rydyn ni’n hyrwyddo’r syniad o archwilio cymunedau ac artistiaid fel adeiladwyr bydoedd. Rydyn ni’n gweithio tuag at arfer cymunedol sy’n archwilio sut gallwn ni i gyd, o wahanol dirweddau a phrofiadau, ddod at ein gilydd i freuddwydio ac i ymarfer posibiliadau newydd o ran dyfodol.

  • Stiwdio

    Rydyn ni mor falch o fod yn gartref i gymuned ddeinamig o gwmnïau ac artistiaid preswyl, sy’n cynhyrchu gwaith sydd gyda’r mwyaf cyffrous yng Nghymru a gwledydd Prydain. Gan amrywio o animeiddio a dylunio graffeg, ffilm a theledu i theatr a chelf we…

  • A man stands with his hands in his pockets in front of Film Hub Wales posters and poses for a camera.

    Canolfan Ffilm Cymru

    Film Hub Wales (FHW) aims to bring more films, to more people, in more places around Wales. Chapter is proud to be the Film Hub lead organisation for Wales.

  • Ffrindiau

    Rhowch eich cyfeillgarwch yn rhodd a dewch â chelf gyfoes, perfformiadau a ffilmiau anhygoel i Gymru.

  • Pantri Cymunedol

    Mae ein Pantri Cymunedol yn ffordd fach i ni allu rhoi ’nôl i’r bobl ar garreg ein drws sy'n cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd.

  • Ein Gardd Cymunedol

    Rydyn ni’n falch iawn o’n gardd gymunedol hyfryd, ac yn ddiolchgar am sgiliau a chefnogaeth ein garddwyr gwirfoddol.

  • Multicoloured bunting and balloons are hung in Chapter's car park. People walk around the stalls on a sunny day.

    Cenhadaeth

    Canolfan ryngwladol ar gyfer diwylliant a chelfyddydau cyfoes yw Chapter.

Cyflwyniad i Chapter

Ydych chi'n ymweld â ni?