Talebau Anrheg
Pa rodd gwell na pherfformiadau newydd radical, ffilmiau indi newydd clodwiw, dramâu newydd gan ddramodwyr gorau Cymru, tymhorau ffilm wedi’u curadu, a phopeth rhyngddyn nhw, gyda Thaleb Anrheg Chapter.
Telerau ac Amodau
- Dim ond am 12 mis ar ôl dyddiad eu prynu mae Talebau / Aelodaeth Rhodd yn ddilys.
- Rhaid defnyddio Taleb / Aelodaeth Rhodd mewn un trafodiad; ni allwch eu cyfnewid am arian ac nid oes ganddyn nhw werth ariannol.
- Ni fyddwn yn rhoi newid nac ad-daliad.
- Gellir defnyddio talebau ar gyfer nwyddau neu wasanaethau sydd â gwerth uwch na’r daleb, wrth dalu’r gwahaniaeth.
- Gellir defnyddio talebau yn ein Swyddfa Docynnau i brynu tocynnau neu yn y Caffi Bar i gael bwyd a diod.
- Ni ellir rhoi taleb arall yn ei lle os caiff ei cholli, ei difrodi neu ei dwyn.
- Bydd talebau’n cael eu gwirio wrth i chi eu cyflwyno.
- Rydyn ni’n cadw’r hawl i wrthod talebau sydd wedi’u difrodi neu sy’n edrych fel pe bai rhywun wedi ymyrryd â nhw neu wedi eu dyblygu.
- Os bydd unrhyw anghydfod, penderfyniad Chapter sy’n derfynol.
- Mae Chapter yn cadw’r hawl i ddiwygio’r telerau ac amodau yma heb roi rhybudd ymlaen llaw.