Pantri Cymunedol
Mae ein Pantri Cymunedol yn ffordd fach i ni allu rhoi ’nôl i’r bobl ar garreg ein drws sy’n cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd.
Rydyn ni’n ei gefnogi gyda rhoddion bwyd wythnosol ac yn eich annog chi i wneud yr un peth os gallwch chi. Os gallwch chi roi:
- Dewch â’ch nwyddau heibio a bwyd nad yw’n mynd yn ddrwg yn gyflym i’n tîm Gwasanaethau Ymwelwyr cyfeillgar wrth ddesg y dderbynfa.
- Wneud rhodd Talu Ymlaen o £3 pan fyddwch chi’n prynu tocyn neu’n archebu bwyd yn ein caffi bar. Rhowch wybod i aelod o staff wrth y til os hoffech chi ychwanegu rhodd i’ch archeb.
- Roi’n uniongyrchol drwy’r ddolen isod.
Ni fydd staff gan y Pantri Cymunedol, ond bydd yn cael ei reoli gan tîm Gwasanaethau Ymwelwyr Chapter, sydd wedi bod yn arwain ar y fenter yma. Os ydych chi mewn angen, cymerwch eitemau o’r silffoedd – fyddwn ni ddim yn gofyn dim byd i chi.
Rhoddion Pantri Cymunedol
Mae ein Pantri Cymunedol yn ffordd fach i ni allu rhoi ’nôl i’r bobl ar garreg ein drws sy'n cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd.
Rydyn ni wedi bod yn sbardun ar gyfer creadigrwydd a meddwl beirniadol byth ers 1971.
Darllenwch ein stori-
-
-
Ein Gardd Cymunedol
Rydyn ni’n falch iawn o’n gardd gymunedol hyfryd, ac yn ddiolchgar am sgiliau a chefnogaeth ein garddwyr gwirfoddol.
-
Ffrindiau
Rhowch eich cyfeillgarwch yn rhodd a dewch â chelf gyfoes, perfformiadau a ffilmiau anhygoel i Gymru.