Gwirfoddoli

Os ydych chi wedi bod i Chapter ac wedi cael eich cyfarch gan rywun wrth ddrws y sinema neu’r theatr, mwy na thebyg mai un o’n tywyswyr gwirfoddol gwych oedden nhw.

Ar hyn o bryd mae dros gant o aelodau’r gymuned o bob math o gefndiroedd yn rhan o’r tîm yma, ac maen nhw’n ein helpu i redeg y ganolfan yn llyfn bob dydd. Does dim amheuaeth y bydden ni ar goll hebddyn nhw. 

Eisiau gwirfoddoli? 

Ar ôl i chi gael hyfforddiant llawn mewn gweithdrefnau iechyd a diogelwch, gofynnwn i chi gofrestru am o leiaf ddwy sifft y mis. Mae gofyn i chi ymuno â’r gynulleidfa ar gyfer hyd y digwyddiad er mwyn monitro am unrhyw aflonyddwch neu broblemau, ond fel arall, gallwch fwynhau’r ffilm neu’r perfformiad byw. 

Mae digonedd o gymhellion hefyd, gan gynnwys 10% i ffwrdd yn y caffi bar, dau docyn sinema am ddim y mis, a chyfle i ennill Credydau Amser Tempo i’w defnyddio yn Chapter neu mewn mannau eraill.

  • Pantri Cymunedol

    Mae ein Pantri Cymunedol yn ffordd fach i ni allu rhoi ’nôl i’r bobl ar garreg ein drws sy'n cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd.

  • Ein Gardd Cymunedol

    Rydyn ni’n falch iawn o’n gardd gymunedol hyfryd, ac yn ddiolchgar am sgiliau a chefnogaeth ein garddwyr gwirfoddol.

  • Ffrindiau

    Rhowch eich cyfeillgarwch yn rhodd a dewch â chelf gyfoes, perfformiadau a ffilmiau anhygoel i Gymru.