Croeso’n ôl ffrindiau!
Rydyn ni’n falch o gyhoeddi bod Cerdyn Ffrindiau Chapter yn dychwelyd. Mae’r cerdyn bach yma, sydd heb pvc ac sydd wedi’i ailgylchu, yn un o’r ffyrdd niferus y gallwch gefnogi ein gwaith elusennol. Gyda’ch cyfeillgarwch chi, byddwch chi’n ein helpu ni i rannu celf gyfoes, perfformiadau a ffilmiau anhygoel o Gymru a gweddill y byd.
Yn yr hinsawdd heriol yma i elusennau, drwy roi £5 y mis, neu rodd blynyddol o £60, byddwch chi’n gyfrifol am gefnogi popeth rydyn ni’n ei wneud yma – o’n ffilmiau am ddim i’r teulu, i weithio gyda, ac ar gyfer, ein cymunedau a’r cannoedd o artistiaid, gwneuthurwyr ffilm, perfformwyr, coreograffwyr, cerddorion a phobl greadigol rydyn ni’n gweithio gyda nhw bob blwyddyn, i sicrhau bod ein dinas yn parhau i fod yn ganolbwynt creadigol.
Mae ein ffrindiau’n hanfodol i’n dyfodol, ac felly rydyn ni’n cynnig ystod wych o fanteision i ddiolch i chi am eich cefnogaeth.
• 10% oddi ar fwyd, diodydd poeth a feddal yn ein Caffi
• Dim ffioedd trafodion ar archebion
• Gostyngiadau arbennig ar ddigwyddiadau penodol
• Dim ffioedd cyfnewid ar archebion
• Mynediad cyntaf i’r felin i ddigwyddiadau arbennig
• Cylchlythyron chwarterol yn rhannu’r holl waith da rydych chi’n helpu i’w wireddu
• Cerdyn Ffrindiau personol wedi’i ddylunio gan yr artist Matt Joyce.
Eisiau gweld mwy o bethau anhygoel yn digwydd yn Chapter?
Cofrestrwch ar gyfer ein Cerdyn Ffrindiau neu rhowch aelodaeth yn rhodd i rywun yma
£60 blwyddiadur
Cofrestrwch ar gyfer ein Cerdyn Ffrindiau neu rhowch aelodaeth yn rhodd i rywun yma