Multicoloured bunting and balloons are hung in Chapter's car park. People walk around the stalls on a sunny day.

Ein Cefnogwyr

Mae ein cefnogwyr yn allweddol, ac yn gwneud i bethau ddigwydd yma! Ar ran pob un ohonon ni, diolch yn fawr iawn i chi am y gefnogaeth hael rydyn ni wedi’i chael hyd yma.

Fel elusen gofrestredig, mae haelioni ein hymwelwyr, ein cefnogwyr, ymddiriedolaethau, a sefydliadau yn ein helpu i ddod â phrofiadau cyffrous ym maes celf gyfoes, perfformiadau a ffilm i Gymru. Mae eich cefnogaeth chi’n ei gwneud hi’n bosib i ni ddangos arddangosfeydd o safon fyd-eang, cyflwyno 2000 o ddangosiadau sinema, 400 o berfformiadau byw, a llawer mwy o weithdai, dosbarthiadau, sgyrsiau a digwyddiadau bob blwyddyn.

Mae’n ein galluogi ni i gadw’n drysau ar agor fel canolfan gymunedol â phobl yn ganolog iddi, gyda’r celfyddydau wrth ei gwraidd, ac i gefnogi cannoedd o artistiaid lleol drwy ddarparu lle, offer, cyllid a chyngor.

Mae’r rhan fwyaf o’n hincwm yn dod o werthiannau tocynnau a’r caffi bar, llogi ystafelloedd, codi arian, a rhoddion. Felly, bob tro y byddwch chi’n ymweld â ni – boed chi’n bachu coffi i fynd, yn eistedd am damaid i’w fwyta, neu’n mwynhau ffilm ar y sgrin fawr – rydych chi’n ein helpu ni’n uniongyrchol i barhau â’n gwaith.