Clwb Chapter

Dod cyn hir…

Canolfan gelfyddydau fwyaf deinamig Caerdydd yw Chapter, yng nghanol Treganna.

Drwy’r flwyddyn, rydyn ni’n cynnig rhaglen gyffrous o arddangosfeydd, perfformiadau, ffilmiau a digwyddiadau cyfranogol, ochr yn ochr â chyfleoedd i chi gyd-greu gweithgareddau gyda ni, neu ymlacio yn awyrgylch bywiog ein caffi bar.

Ymwelwch â ni i weld y ffilmiau mawr ac indi diweddaraf, ymgollwch mewn perfformiad arbrofol, mwynhewch ein gigs misol gyda rhai o ddoniau cerddorol gorau Cymru, taniwch eich dychymyg am ddim yn yr oriel, neu treuliwch amser â ffrindiau.

Mae Clwb Chapter yn gynnig ffyrdd fforddiadwy i chi fwynhau’r holl bethau anhygoel rydyn ni’n eu cynnig. Gallwch hefyd fod yn rhan o’r cymuned ehangach sy’n cynhyrchu rhywfaint o’n rhaglen ac sy’n ein cynghori ar y ffyrdd y gallwn ni ysbrydoli, denu a chefnogi artistiaid, pobl greadigol, a chynulleidfaoedd ifanc.

Clwb Chapter

Os ydych chi rhwng 16 a 30 oed, hoffen ni eich croesawu chi i Glwb Chapter. Gallwch ymuno am ddim, ac elwa ar yr holl gynigion gwych yma:

  • Aelodaeth am ddim
  • Dau docyn sinema am ddim pan fyddwch chi’n ymuno (i’w defnyddio yn y mis cyntaf)
  • Tocynnau sinema, theatr a digwyddiadau am £5* yn unig
  • Dim ffi archebu (£1 fel arfer)
  • 10% oddi ar fwyd a diod meddal yn ein caffi
  • Dewch â ffrind rhwng 16-30 oed gyda chi am yr un pris tocyn
  • Cyfleoedd i ddod ata’i gilydd a chwrdd ag aelodau eraill
  • Cynigion a gostyngiadau arbennig gan ein cymuned greadigol

*mae eithriadau i hyn

Cofrestrwch ar-lein a chasglwch eich cerdyn aelodaeth yn y swyddfa docynnau ar eich ymweliad nesaf i ddechrau arbed arian. Bydd angen i chi ddod â cherdyn adnabod i ddangos eich oedran cyn bydd eich cerdyn aelodaeth yn dechrau gweithio.