Cefnogi ni
Fel elusen gofrestredig, mae haelioni ein hymwelwyr, ein cefnogwyr, ymddiriedolaethau, a sefydliadau yn ein helpu i ddod â phrofiadau cyffrous ym maes celf gyfoes, perfformiadau a ffilm i Gymru.
Mae eich cefnogaeth chi’n ei gwneud hi’n bosib i ni ddangos llawer o arddangosfeydd o safon fyd-eang, cyflwyno 2000 o ddangosiadau sinema, 400 o berfformiadau byw, a llawer mwy o weithdai, dosbarthiadau, sgyrsiau a digwyddiadau bob blwyddyn.
Mae’n ein galluogi ni i gadw’n drysau ar agor fel canolfan gymunedol â phobl yn ganolog iddi, gyda’r celfyddydau wrth ei gwraidd, ac i gefnogi cannoedd o artistiaid lleol drwy ddarparu lle, offer, cyllid a chyngor.
Mae’r rhan fwyaf o’n hincwm yn dod o werthiannau tocynnau a’r Caffi Bar, llogi ystafelloedd, ymdrechion codi arian a rhoddion. Felly, bob tro y byddwch chi’n ymweld â ni – boed chi’n bachu coffi i fynd, yn eistedd am damaid i’w fwyta, neu’n mwynhau ffilm ar y sgrin fawr – rydych chi’n ein helpu ni’n uniongyrchol i barhau â’n gwaith creadigol.
___
Credyd llun: Kirsten McTernan, Barbie Premier Party 2023.
Ffrindiau Chapter Friends
Yn yr hinsawdd heriol yma i elusennau, drwy roi £5 y mis, neu rodd blynyddol o £45, byddwch chi’n gyfrifol am gefnogi popeth rydyn ni’n ei wneud yma – o’n ffilmiau am ddim i’r teulu, i weithio gyda, ac ar gyfer, ein cymunedau a’r cannoedd o artistiaid, gwneuthurwyr ffilm, perfformwyr, coreograffwyr, cerddorion a phobl greadigol rydyn ni’n gweithio gyda nhw bob blwyddyn, i sicrhau bod ein dinas yn parhau i fod yn ganolbwynt creadigol.
£5 y mis
£45 blwyddiadur
Cefnogi Chapter
Diolch am eich cefnogaeth barhaol. Mae eich rhoddion yn galluogi ni i barhau ein waith elusenol, creu gofod i gymunedau creadigol yng Nghymru.
-
Gwirfoddoli
Mae ein gwirfoddolwyr yn griw gwych o bobl sy'n dod o bob math o gefndiroedd, ond yn rhannu un peth cyffredin – maen nhw'n angerddol am Chapter a'r hyn rydyn ni'n ei wneud.
-
Rhoddi
Mae pob ceiniog rydych chi’n ei gwario yn cefnogi ein gwaith ac yn ein galluogi ni i fod yn ganolfan fywiog i’n cymuned
-
Pantri Cymunedol
Mae ein Pantri Cymunedol yn ffordd fach i ni allu rhoi ’nôl i’r bobl ar garreg ein drws sy'n cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd.
-
Mabwysiadu Sedd
Mabwysiadwch un o’n seddi hyfryd yn y theatr neu’r sinema fel gwaddol i ffrind, cydweithiwr neu anwylyd, neu ar gyfer pen-blwydd, i ddathlu carreg filltir neu er cof am rywun.
-
Cymynroddion
Nid yw cymynrodd yn costio dim byd i chi nawr, ond gallai olygu llawer i genedlaethau’r dyfodol a fydd yn mwynhau Chapter cymaint â chi.
-
Ffrindiau
Rhowch eich cyfeillgarwch yn rhodd a dewch â chelf gyfoes, perfformiadau a ffilmiau anhygoel i Gymru.
-
Ein Cefnogwyr
Mae eich cefnogaeth chi’n ei gwneud hi’n bosib i ni ddangos arddangosfeydd o safon fyd-eang, cyflwyno 2000 o ddangosiadau sinema, 400 o berfformiadau byw, a llawer mwy o weithdai, dosbarthiadau, sgyrsiau a digwyddiadau bob blwyddyn.