Preifatrwydd

Rydyn ni’n credu’n gryf mewn bod yn dryloyw pan ddaw at sut rydyn ni’n storio ac yn defnyddio data personol. Dyma ein polisi pre­ifatrwydd (byr iawn).

Hysbysiad Preifatrwydd

O dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), mae ganddon ni ddyletswydd gyfreithiol i ddiogelu unrhyw ddata personol rydyn ni’n ei gasglu gennych chi, er mwyn bod yn glir ynghylch pa ddibenion rydyn i’n ei ddefnyddio a’i gwneud yn hawdd i chi optio allan rhag derbyn cyfath­rebiadau ganddon ni ar unrhyw adeg. Yn y cyd-destun yma, mae data personol yn cyfeirio at unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â pherson y byddai’n bosib eu hadnabod, boed hynny’n uni­ongyrchol neu’n anuniongyrchol.

Mae’r dudalen yma’n egluro sut rydyn ni’n diogelu ac yn parchu’r data rydyn ni’n ei gasglu gennych chi.

Pynciau:

  • Gwybodaeth am bwy ydyn ni'n ei chasglu?
  • Pa ddata personol rydyn ni’n ei gasglu amdanoch chi?
  • Sut byddwn ni’n defnyddio’r data personol amdanoch chi?
  • Marchnata/Codi Arian
  • Mynediad at eich data personol a chywiro
  • Amgryptio prosesau talu
  • Trosglwyddo gwybodaeth y tu allan i Ardal Economaidd Ewrop (AEE)
  • Cwcis
  • Gwefannau eraill
  • Newidiadau i’n polisi preifatrwydd
  • Sut i gysylltu â ni

Gwybodaeth am bwy ydyn ni'n ei chasglu?

Rydyn ni’n casglu gwybodaeth bersonol am y categorïau canlynol o bobl:

  • Aelodau o'r gynulleidfa
  • Noddwyr y caffi bar
  • Ymwelwyr â’r oriel
  • Cyfranogwyr gweithgareddau dysgu ac ymgysylltu
  • Cyfranogwyr arolygon cwsmeriaid a ffurflenni adborth
  • Llogwyr/tenantiaid gofodau yn ein hadeilad
  • Cefnogwyr – Ffrindiau, rhoddwyr
  • Rhanddeiliaid eraill

Pa ddata personol rydyn ni’n ei gasglu amdanoch chi?

Yn dibynnu ar ba weithgaredd rydych chi’n ymwneud ag e, efallai y byddwn ni’n casglu rhywfaint neu’r holl wybodaeth ganlynol:

  • Bywgraffiadol – enw, teitl, cyfenw blaenorol, dyddiad geni neu oedran, rhywedd, ethnigrwydd, crefydd, ffydd, neu wybodaeth sy’n dynodi eich statws economaidd-gymdeithasol.
  • Manylion cyswllt – cyfeiriad post, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn.
  • Gofynion hygyrchedd.
  • Cofnod o roddion neu daliadau (mae taliadau am docynnau, bwyd a diod a rhoddion rheolaidd yn cael eu rheoli trwy drydydd parti – dim ond at ddibenion prosesu debydau uniongyrchol y byddwn ni’n cadw manylion cyfrif banc, ac maen nhw’n cael eu cadw ar weinydd diogel).
  • Presenoldeb mewn digwyddiadau, a phresenoldeb mewn ardaloedd ar draws yr adeilad (oriel, caffi bar, ac ati).

Dim ond pan fydd rheswm dilys dros wneud hynny y byddwn ni’n casglu’r wybodaeth yma.

Sut byddwn ni’n defnyddio’r data personol amdanoch chi?

Rydyn ni’n casglu data personol amdanoch chi er mwyn prosesu unrhyw archeb rydych chi’n ei gwneud, i’ch galluogi i ddefnyddio ein gwasanaethau, ac i roi gwybod i chi os bydd newidiadau i ddigwyddiad neu wasanaeth (er enghraifft newid yr amser dechrau neu, yn anaml iawn, mewn perthynas â chanslo).  

Marchnata a Chodi Arian

Byddwn ni hefyd yn casglu data personol amdanoch chi, os byddwch chi’n cytuno, er mwyn gallu anfon e-bost atoch chi am y digwyddiadau sydd i ddod a gwasanaethau a allai fod o ddiddordeb i chi. Hoffen ni hefyd gysylltu â chi o dro i dro ynghylch gweithgareddau codi arian. Fyddwn ni ond yn gwneud hyn os byddwch chi wedi rhoi caniatâd pan ofynnwyd i chi ar y pwynt cyswllt cyntaf. Os ydych chi wedi caniatáu i ni anfon gwybodaeth farchnata neu godi arian, gallwch optio allan yn nes ymlaen. Byddwch hefyd yn cael cynnig cyfle i optio allan bob tro rydyn ni’n cyfathrebu gyda chi. Os oes gennych gyfrif ar-lein, gallwch hefyd fewngofnodi ar unrhyw adeg a diweddaru eich dewisiadau.

Mewn perthynas â rhoi data personol yn wirfoddol drwy arolygon cwsmeriaid a ffurflenni adborth, defnyddir y data yma i lywio cynlluniau ar gyfer y rhaglen yn y dyfodol a gwella gwasanaethau, a chaiff ei rannu’n achlysurol â rhanddeiliaid gan fod gofyn amdano fel amod ariannu ar adegau. Yn y sefyllfaoedd yma, mae’r holl ddata yn ddienw, ac nid oes data y mae modd adnabod rhywun ohono yn cael ei rannu. At ddibenion cystadlaethau, cesglir data personol ar gyfer y diben penodol hwnnw, a chaiff ei ddinistrio ar ôl ei gwblhau.

Os byddwch chi’n cydsynio hefyd, byddwn ni’n defnyddio eich data personol i roi gwybod i chi am weithgareddau codi arian a gweithgarwch dethol arall rydyn ni’n cymryd rhan ynddo. O dro i dro, rydyn ni’n ymgysylltu â thrydydd partïon er mwyn cynnal ymgyrchoedd codi arian ac i brosesu rhoddion e.e. y Sefydliad Cymorth i Elusennau, Facebook, Paypal ac ati. Byddwn ni bob amser yn nodi’n glir os ydyn ni’n defnyddio trydydd parti, a bryd hynny polisi preifatrwydd y trydydd parti fydd yn berthnasol. Dim ond gyda chwmnïau sydd â pholisïau preifatrwydd cadarn ar waith y byddwn ni’n cydweithio.

Fyddwn ni byth yn rhannu eich data personol gyda chwmnïau allanol heblaw am y rhai a ddewiswyd i brosesu manylion ein cwsmeriaid at ddiben trafodion tocynnau neu gynnyrch (Spektrix); llogi ystafell (Artifax); a thrafodion y caffi bar. Rydyn ni wedi rhoi trefniadau contractiol ar waith gyda’r sefydliadau yma i sicrhau bod eich data’n ddiogel ac wedi’i amddiffyn bob amser. Dylech wneud ceisiadau i dynnu gwybodaeth o’r systemau yma yn uniongyrchol i ni.

  • Mae’r cyflenwyr sydd â threfniadau contractiol gyda ni yn cynnwys:
  • Spektrix i brosesu pryniannau tocynnau a chynnyrch.
  • DotDigital ar y cyd â Spektrix i anfon Cylchlythyron a chadw mewn cysylltiad drwy e-bost.
  • Artifax i brosesu llogi ystafelloedd a swyddfeydd.
  • Tevalis i brosesu trafodion y caffi bar.
  • Qikserve i brosesu trafodion y caffi bar ar-lein.
  • System Adnoddau Dynol Breathe i gofnodi gwyliau a salwch ein gweithwyr.
  • Sage i brosesu anfonebau.
  • RotaReady system rota sy’n cofnodi manylion gwybodaeth gyswllt a chyflog staff.
  • Fyddwn ni ddim yn rhannu eich data personol at ddibenion marchnata â chwmnïau allanol.

Rydyn ni’n defnyddio ‘Cwcis’ ar ein gwefan er mwyn ein galluogi i weld sut caiff ein gwefan ei defnyddio a gwella ein gwasanaethau i chi. Nid yw’r wybodaeth yma’n eich adnabod yn bersonol. Am ragor o wybodaeth, gweler isod.

Mynediad at eich data personol a chywiro

Mae gennych hawl i wneud cais am gopi o’r data personol sydd gennym amdanoch chi. Os hoffech gopi, anfonwch e-bost neu ysgrifennwch aton ni drwy’r cyfeiriad canlynol, d/o Rheolwr Data, Chapter, Heol y Farchnad, Caerdydd CF5 1QE.  

Rydyn ni am sicrhau bod eich data personol yn gywir ac yn gyfredol. Gallwch ofyn i ni gywiro neu dynnu data rydych chi’n credu sy’n anghywir drwy gysylltu â ni drwy’r cyfeiriad uchod, drwy ffonio ein Desg Wybodaeth ar 029 2031 1050 neu drwy anfon e-bost i datarequest@chapter.org

Mynediad at eich data personol a chywiro

Mae gennych hawl i wneud cais am gopïau o’ch data sy’n cael ei gadw gan Chapter. Os hoffech wneud cais o’r fath, anfonwch e-bost i datarequest@chapter.org.

Mae gennych hawl i ofyn i’ch data gael ei gywiro neu ei ddileu. Os hoffech wneud cais am hyn, anfonwch e-bost i updateme@chapter.org neu eraseme@chapter.org.

Os nad ydych chi am i ni ddefnyddio neu brosesu eich data mwyach, gallwch optio allan ar unrhyw adeg drwy’r ddolen dad-danysgrifio sydd yn yr e-byst, neu cysylltwch â’r tîm Diogelu Data drwy dataprotection@chapter.org.

Trosglwyddo gwybodaeth y tu allan i Ardal Economaidd Ewrop (AEE)

Gallai’r data rydyn ni’n ei gasglu gennych chi gael ei drosglwyddo, a’i storio, mewn lleoliad y tu allan i’r AEE. Gallai hefyd gael ei brosesu gan staff sy’n gweithredu y tu allan i’r AEE sy’n gweithio i ni neu i un o’n cyflenwyr. Gallai staff o’r fath fod yn rhan o gyflawni eich archeb, prosesu eich manylion talu, a darparu gwasanaethau cymorth, ymhlith gweithgareddau eraill. Drwy gyflwyno eich data personol, rydych chi’n cytuno i’r trosglwyddo, storio neu brosesu hwn. Byddwn ni’n cymryd pob cam sy’n rhesymol ofynnol i sicrhau bod eich data’n cael ei drin yn ddiogel ac yn unol â’r polisi preifatrwydd yma.

Mae’r holl wybodaeth rydych chi’n ei darparu i ni yn cael ei storio ar ein gweinyddion diogel. Bydd unrhyw drafodion talu yn cael eu hamgryptio wrth eu cludo gan ddefnyddio amgryptio TLS 1.2. Lle rydyn ni wedi rhoi cyfrinair (neu lle rydych chi wedi dewis un) sy’n eich galluogi i gael mynediad at rannau penodol o’n gwefan, chi’n bersonol sy’n gyfrifol am gadw’r cyfrinair yma’n gyfrinachol. Gofynnwn i chi beidio â rhannu’ch cyfrinair â neb.

Yn anffodus, nid yw’r rhyngrwyd a throsglwyddo gwybodaeth dros y rhyngrwyd yn gwbl ddiogel. Er y byddwn ni’n gwneud pob ymdrech resymol i amddiffyn eich data personol ac atal mynediad anawdurdodedig ato drwy ei storio ar weinydd diogel sydd wedi’i amddiffyn gan gyfrinair a’i guddio tu ôl i wal dân, allwn ni ddim gwarantu diogelwch eich data sy’n cael ei drosglwyddo i’n gwefan; mae unrhyw drosglwyddiad ar eich risg eich hunan.

Bydd negeseuon a gânt eu cludo i ni drwy ein system docynnau yn cael eu storio yn yr AEE ar weinyddion ein darparwr e-bost.

Ein e-bost trydydd parti neu ddarparwr yw Microsoft Office 365. Mae eu polisi preifatrwydd ar gael yma.

Ble caiff eich gwybodaeth ei storio

Caiff eich gwybodaeth ei storio ar gronfeydd data a rhwydweithiau diogel sydd wedi’u hamddiffyn gan gyfrinair. Rhoddir mynediad at wybodaeth i staff sydd â’r awdurdodiad priodol yn unig. Caiff data ei gadw yn bennaf yn y Deyrnas Unedig gyda rhywfaint ar weinyddion yn yr Undeb Ewropeaidd.

Cwcis

Ffeiliau testun bach yw Cwcis, a gaiff eu storio gan eich porwr gwe (e.e. Internet Explorer, Chrome, Safari, Firefox) ar eich cyfrifiadur, llechen neu ffôn symudol i alluogi ymarferoldeb ar wefan (er enghraifft storio dewisiadau defnyddwyr).

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.aboutcookies.org neu www.allaboutcookies.org.

Ein defnydd o Gwcis
Ffeil fach sy’n gofyn am ganiatâd i gael ei rhoi ar yriant caled eich cyfrifiadur yw Cwci. Ar ôl i chi gytuno, caiff y ffeil ei hychwanegu, ac mae’r Cwci’n helpu i ddadansoddi traffig gwefan neu’n rhoi gwybod i chi pan fyddwch chi’n mynd ar wefan benodol. Mae Cwcis yn caniatáu i raglenni gwe ymateb i chi fel unigolyn. Gall y rhaglen we deilwra ei gweithrediadau i’ch anghenion, a’r hyn rydych chi’n ei hoffi neu nad ydych chi’n ei hoffi, drwy gasglu a chofio gwybodaeth am eich dewisiadau.

Rydyn ni’n defnyddio Cwcis log traffig i nodi pa dudalennau sy’n cael eu defnyddio. Mae hyn yn ein helpu i ddadansoddi data am draffig gwefan a gwella ein gwefan fel bod modd i ni ei theilwra i anghenion cwsmeriaid. Dim ond at ddibenion dadansoddi ystadegol rydyn ni’n defnyddio’r wybodaeth yma, ac yna caiff y data ei dynnu o’r system. Yn gyffredinol, mae Cwcis yn ein helpu i roi gwefan well i chi, drwy ein galluogi i fonitro pa dudalennau gwe sy’n ddefnyddiol i chi a pha rai nad ydynt. Dydy Cwci ddim yn rhoi dim mynediad i ni at eich cyfrifiadur nac at wybodaeth amdanoch chi, heblaw am y data rydych chi’n dewis ei rhannu gyda ni.

Gallwch ddewis derbyn neu wrthod Cwcis. Mae’r rhan fwyaf o borwyr gwe yn derbyn Cwcis yn awtomatig, ond fel arfer gallwch addasu gosodiadau eich porwr i’w gwrthod os yw’n well gennych chi. Mae’n bosib y bydd hyn yn eich rhwystro rhag manteisio’n llawn ar y wefan.

Mae’n bosib y byddwn ni hefyd yn defnyddio tagiau picsel er mwyn gwella ein hysbysebion ar Facebook ac Instagram, a’u gwneud yn fwy perthnasol i chi. Gallwch ddiffodd y caniatâd ar gyfer y tagiau yma drwy eich cyfrif Facebook. Mae Facebook wedi cyhoeddi canllawiau ar sut gallwch newid y gosodiadau.

Mae ein gwefan yn defnyddio Google Analytics i gasglu data ystadegol – ewch i Delerau Gwasanaeth Google Analytics i weld y manylion llawn.

Gwerthiant Tocynnau

Rydyn ni’n defnyddio cymysgedd o Gwcis hanfodol ac anhanfodol fel rhan o’r broses archebu er mwyn sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau posib.

Cwcis Hanfodol

Er mwyn cadw golwg ar eich archeb, mae’n hanfodol ein bod ni’n storio ‘Cwci Sesiwn’ ar eich cyfrifiadur. Bydd y Cwci yma’n para 24 awr.

Caiff Cwci Sesiwn ei ddileu pan fydd y defnyddiwr yn cau’r porwr gwe. Caiff y Cwci Sesiwn ei storio mewn cof dros dro ac ni chaiff ei gadw ar ôl cau’r porwr. Nid yw Cwcis Sesiwn yn casglu gwybodaeth o gyfrifiadur y defnyddiwr. 

Cwcis Anhanfodol

Rydyn ni’n defnyddio rhai Cwcis anhanfodol i bersonoli eich profiad archebu ac i’w wneud yn haws ac yn fwy boddhaus i chi. Defnyddir y Cwcis ychwanegol yma i storio pethau fel eich manylion mewngofnodi, er mwyn eich mewngofnodi’n awtomatig bob tro y byddwch chi’n dod i’n gwefan.

Cyn storio’r Cwcis yma am y tro cyntaf, byddwn ni’n eich rhybuddio ac yn gofyn am eich caniatâd cyn bwrw ymlaen. Os nad ydych chi am storio’r Cwcis yma, ni fydd modd i chi ddefnyddio’r nodwedd yma, ond bydd gweddill y wefan yn parhau i weithio’n iawn.

Gwefannau eraill

Mae ein gwefan yn cynnwys dolenni at wefannau eraill. Dim ond i’n gwefan ni mae’r polisi preifatrwydd yma’n berthnasol, felly pan fyddwch chi’n mynd i wefannau eraill drwy ddolen, dylech ddarllen eu polisïau preifatrwydd nhw.

Camerâu Teledu Cylch Cyfyng

Mae Chapter yn gweithredu goruwchyalieth camerâu teledu cylch cyfyng drwy’r adeilad ac ar berimedr y safle. Mae’r system yn ei lle at ddibenion lleihau perygl trosedd yn gyffredinol, amddiffyn ein safle, a helpu i sicrhau diogelwch ein staff a’n hymwelwyr. Caiff y delweddau eu storio’n ddiogel a’u monitro mewn man rheoledig. Mae’n bosib y bydd delweddau’n cael eu rhannu â Heddlu De Cymru os oes angen fel rhan o ymchwiliad i drosedd.

Ffotograffiaeth

Mae Chapter yn defnyddio ffotograffiaeth a ffilm mewn digwyddiadau i hyrwyddo ei gweithgareddau, adeiladu cynulleidfaoedd newydd, ac adrodd wrth gyllidwyr. Mae’n bosib y bydd y delweddau yma’n cael eu defnyddio ar ein gwefan, ar sianeli cyfryngau cymdeithasol, mewn datganiadau i'r wasg ac mewn adroddiadau ysgrifenedig i gyllidwyr. Bydd unrhyw ddigwyddiad lle mae ffotograffydd yn bresennol yn nodi hynny’n glir ar arwyddion er mwyn i chi fod yn ymwybodol ar y pryd. Gallwch ofyn i beidio â chael eich cynnwys mewn lluniau. Byddwn ni’n ceisio caniatâd rhieni i dynnu lluniau o blant a phobl ifanc o dan 18 oed.

Newidiadau i’n polisi preifatrwydd

Rydyn ni’n adolygu ein polisi preifatrwydd yn rheolaidd, a byddwn ni’n nodi unrhyw ddiweddariadau ar y dudalen we yma.

Diweddarwyd y polisi preifatrwydd yma ddiwethaf ym mis Awst 2022.

Sut i gysylltu â ni

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein polisi preifatrwydd neu’r data personol sydd gennym amdanoch chi: