Iaith Gymraeg
Mae Chapter yn cydnabod bod gan y Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru ac na ddylid ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg. Dylai pobl yng Nghymru allu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dewis gwneud hynny.
Rydym yn cynhyrchu, yn hyrwyddo ac yn cyflwyno gwaith yn Saesneg, yn Gymraeg, yn ddwyieithog ac mewn llawer o ieithoedd eraill. Byddwn yn parhau i raglennu gwaith yn newis iaith yr artistiaid y byddwn yn gweithio gyda nhw.
Rydym yn sefydliad sy'n cefnogi ac yn annog hygyrchedd yn ein rhaglenni a'n gwasanaethau celfyddydol ac mae hynny'n cynnwys darparu gwasanaethau cyson i'n cynulleidfaoedd Cymraeg eu hiaith yn eu dewis iaith nhw.
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn y Gymraeg a'r Saesneg a'n nod yw darparu gwasanaeth o safon gydradd yn y ddwy iaith.
Rydym yn ystyried y polisi hwn yn rhan o ymrwymiad blaengar a phellgyrhaeddol ym myd y celfyddydau i hyrwyddo Cymru ddwyieithog.
Amcanion ein polisi yw:
- cynnig gwasanaeth o safon gyfartal i siaradwyr Cymraeg a Saesneg
- deall a chydnabod natur ddwyieithog Cymru
- sicrhau mynediad ehangach i'n gweithgareddau
- codi ein proffil yng Nghymru a chydnabod perchnogaeth siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg fel ei gilydd
- cryfhau ein hapêl oddi mewn a thu allan i Gymru
- hybu ein gallu i ateb gofynion arianwyr a phartneriaid eraill
- sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion ieithyddol a diwylliannol o ran deddfwriaeth a'r arferion gwaith gorau fel y'u cymeradwyir gan Gomisiynydd y Gymraeg
Cyfathrebu Allanol
Hunaniaeth Gorfforaethol
Caiff y gair ‘Chapter’, pan ddefnyddir ef i ddynodi enw ein canolfan, ei ddefnyddio yn Saesneg yn unig, bob amser.
Ar wahân i'r un eithriad hwn, bydd delwedd gyhoeddus a hunaniaeth gorfforaethol Chapter yn gwbl ddwyieithog. Mae hynny’n cynnwys y defnydd o linellau hysbysebu, papur pennawd, cardiau busnes, slipiau cyfarch a deunyddiau ysgrifennu eraill, llofnodion e-bost, arwyddion, cerbydau, stoc tocynnau, llyfrau siec, anfonebau a phob dogfen fusnes arall.
Arwyddion a Baneri
Bydd yr holl arwyddion mewnol, allanol ac electronig (gan gynnwys arwyddion dros dro a gaiff eu harddangos am fwy na thri diwrnod gwaith) yn ddwyieithog.Bydd dyluniad pob arwydd yn ystyried y canllawiau dylunio dwyieithog a gyhoeddir gan Gomisiynydd y Gymraeg ac fe fydd y ddwy iaith yn gydradd o ran fformat, maint, ansawdd, eglurder ac amlygrwydd.
Deunyddiau Corfforaethol a Marchnata
Bydd pob cyhoeddiad corfforaethol yn cael ei argraffu yn gwbl ddwyieithog, gan gynnwys ein Hadroddiadau Blynyddol, Canllawiau Hygyrchedd ac unrhyw ddogfennau a fwriedir ar gyfer cyfathrebu allanol cyffredinol.
Bydd ein prif ddeunyddiau marchnata yn gwbl ddwyieithog.
Bydd yr holl ddeunydd print atodol a gynhyrchir gan Chapter yn gwbl ddwyieithog ac fe fydd hyn yn cynnwys pob ffurf a fformat cyffredinol: catalogau, taflenni, posteri, rhaglenni, nodiadau, canllawiau i ymwelwyr ac ati.
Fe all ymgyrchoedd hysbysebu neu ddeunyddiau cyhoeddusrwydd wedi'u bwriadu ar gyfer cynulleidfa darged benodol y tu allan i Gymru fod yn eithriadau i'r egwyddor gyffredinol hon.
Byddwn yn derbyn deunydd marchnata gan gwmnïau sy'n ymweld â Chapter, a dosbarthwyr ffilm, artistiaid ac ati, yn Saesneg.
Bydd yr holl arddangosfeydd, stondinau ac arddangosfeydd allanol o wybodaeth gyhoeddus yn trin y ddwy iaith yn gyfartal, ag eithrio mewn digwyddiadau lle mae gan y trefnwyr reol y dylai un iaith gael blaenoriaeth dros y llall.
Byddwn yn casglu gwybodaeth am ddewis iaith ein cwsmeriaid lle bynnag y bydd hynny'n bosib ac yn defnyddio'r data hwn i gyfathrebu yn newis iaith ac yn newis fformat y cwsmer.
Comisiynu
Byddwn yn parhau i gomisiynu a chefnogi deunydd hyrwyddo a thrafodaethau yn Gymraeg.Arolygon, Holiaduron a Grwpiau Ffocws
Bydd yr holl arolygon a'r holiaduron a gynhyrchir gan Chapter yn ddwyieithog. Bydd yn ofynnol i unrhyw artist, gwmni neu sefydliad marchnata sy'n ymweld â Chapter ac sy'n dymuno dosbarthu arolygon a holiaduron i gynulleidfaoedd Chapter ofyn am ganiatâd ymlaen llaw gennym ni i wneud hynny. Byddwn yn asesu pob achos unigol er mwyn penderfynu pa gwmnïau a gaiff yr hawl i ddosbarthu holiaduron heb gyfieithiad.
Caiff o leiaf un grŵp mewn unrhyw raglen ymchwil ansoddol ei gymedroli drwy gyfrwng y Gymraeg.Blaen y Tŷ
Ein nod yw sicrhau bod cyfran o'n staff sy'n ymwneud yn uniongyrchol â chwsmeriaid (tywyswyr, goruchwylwyr, staff y caffi-bar, a staff cyfleusterau, marchnata a'r swyddfa docynnau) yn medru cyfathrebu'n ddwyieithog.
Rydym yn ymrwymo i sicrhau y bydd staff Cymraeg eu hiaith ar gael i gefnogi ein rhaglen o ddigwyddiadau Cymraeg.
Bydd staff sy'n siarad Cymraeg yn gwisgo bathodynnau Iaith Gwaith pan fydd y rhain ar gael.Gohebiaeth ysgrifenedig
Mae Chapter yn croesawu gohebiaeth ysgrifenedig yn Gymraeg ac yn Saesneg a bydd yn ateb yr ohebiaeth honno yn iaith y llythyr gwreiddiol, pryd bynnag y bydd hynny'n bosib.Cyfathrebu dros y ffôn
Bydd gan ganolfan Chapter neges ddwyieithog ar ei pheiriant ateb.
Bydd pob ateb cychwynnol yn ddwyieithog. Os nad yw'r aelod o staff sydd ar ddyletswydd yn siarad Cymraeg, byddwn yn cyfeirio’r alwad at siaradwr Cymraeg, lle bo modd, gan gydnabod hefyd y bydd yna sawl achlysur pan na fydd hyn yn bosib.
Anogir aelodau unigol o staff sy'n siarad Cymraeg i adael negeseuon dwyieithog ar eu peiriannau ateb.
Marchnata digidol a chymdeithasol a thechnoleg gwybodaeth
Bydd gan Chapter bresenoldeb cwbl ddwyieithog ar y we, yn unol â chanllawiau Comisiynydd yr Iaith Gymraeg. Pan fyddwn yn defnyddio cynnwys o ffynonellau allanol, gan gynnwys cwsmeriaid, sefydliadau diwylliannol eraill, neu aelodau o'n cymuned greadigol, byddwn yn derbyn cynnwys yn Gymraeg neu yn Saesneg yn unig. Derbynnir erthyglau blog yn Gymraeg neu yn Saesneg ac ni chyfieithir y rhain. Caiff eitemau newyddion eu cyfieithu lle bynnag y bo modd.
Bydd cwsmeriaid yn gallu nodi eu dewis iaith yn rhan o gyfres o ddewisiadau cyfathrebu.
Bydd yr holl staff y mae eu gwaith yn cynnwys cyfathrebu ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg yn derbyn unrhyw feddalwedd angenrheidiol, gan gynnwys ffontiau Cymraeg, gwirydd sillafu Cymraeg ac ati.
Caiff e-daflenni eu hanfon allan yn newis iaith y cwsmer lle bynnag y bydd hynny'n bosib.
Bydd ein presenoldeb ar gyfryngau cymdeithasol yn cynnwys cymysgedd o Saesneg, cyfathrebu dwyieithog a chynnwys gwreiddiol wedi'i gynhyrchu yn Gymraeg.
Bydd cynnwys a ddarperir gan ffynonellau allanol yn cael ei bostio yn iaith wreiddiol y cynnwys hwnnw.
Cysylltiadau Cyfryngol
Bydd datganiadau i'r wasg yn cael eu cyflwyno yn newis iaith y sefydliad cyfryngol, y newyddiadurwr neu'r cyhoeddiad sy'n derbyn y datganiad.
Lle bydd hynny'n bosib, byddwn yn sicrhau bod siaradwyr Cymraeg ar gael i gynnal cyfweliadau gyda'r wasg a'r cyfryngau darlledu Cymraeg.
Lansiadau, Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol a chyfarfodydd a chynadleddau cyhoeddus wedi'u trefnu gan Chapter
Byddwn yn ymdrechu i ddarparu cyfleusterau cyfieithu ar y pryd er mwyn galluogi cyfranogwyr i ddefnyddio'r naill iaith neu'r llall.
Recriwtio
Cyhoeddir pob hysbyseb recriwtio allanol yn ddwyieithog ag eithrio hysbysebion ar gyfer swyddi lle mae'r Gymraeg yn ofynnol. Caiff y swyddi hyn eu hysbysebu yn Gymraeg gyda chrynodeb Saesneg.
Byddwn yn nodi'r swyddi hynny lle mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol a'r rheiny lle y bydd yn ddymunol, er mwyn nodi'r gallu ieithyddol sydd ei angen, ac er mwyn llunio disgrifiadau swydd a manylebau personél yn ôl yr angen.
Bydd rheolwyr sy'n gyfrifol am recriwtio staff yn asesu ein hanghenion parthed staff Cymraeg eu hiaith wrth benodi a byddant yn cadw llygad parhaol ar yr agwedd hon ar recriwtio.
Gwasanaethau Cyfieithu
Byddwn yn defnyddio cyfieithwyr wedi'u cymeradwyo gan Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg neu gyfieithwyr a chanddynt ddealltwriaeth arbenigol o ffurf gelfyddydol neu bwnc penodol.
Darperir gwasanaethau cyfieithu sylfaenol mewnol gan yr adran farchnata, yn ôl yr angen.
Cyfathrebu Mewnol
Dogfennau, cytundebau a chyfathrebiadau eraill
Bydd pob dogfen, contract neu ddarn o ohebiaeth fewnol yn cael ei gynhyrchu yn Gymraeg a / neu yn Saesneg, fel y gwelwn yn dda, oni bai bod unigolyn wedi mynegi dymuniad i dderbyn gohebiaeth mewn un iaith yn hytrach nag un arall.
Cyfarfodydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
Bydd agendâu a chofnodion cyfarfodydd llawn Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn cael eu cynhyrchu yn Saesneg oni wneir cais iddi fod fel arall.
Staff sy'n siarad Cymraeg
Rydym yn parchu'r ffaith bod nifer o'n staff yn siaradwyr Cymraeg ac yn annog staff i gyfathrebu yn eu dewis iaith yn y gweithle.
Ni fyddwn yn disgwyl i staff sy'n siarad Cymraeg weithio fel cyfieithwyr ar gyfathrebiadau ysgrifenedig neu lafar oni bai bod hyn yn rhan o ddisgrifiad penodol eu swydd a bod ganddynt sgiliau penodol sy'n eu galluogi i ddarparu gwasanaeth cyfieithu o safon uchel.
Datblygiad staff
Rydym yn annog ein staff i ddysgu Cymraeg neu i fynychu cyrsiau gloywi iaith drwy gynnig cymorth ariannol, pan allwn, ar gyfer gwersi Cymraeg yn ystod oriau gwaith.
Hysbysu staff
Mae'r polisi hwn yn rhan o bolisïau a gweithdrefnau'r Cwmni a gyflwynir i bob aelod o staff trwy gyfrwng y llawlyfr i staff. Bydd ar gael i bob aelod arfaethedig o staff yn rhan o'r pecyn cais ar gyfer swyddi gwag.
Adolygu'r Polisi
Caiff y polisi hwn a'i weithrediad eu hadolygu gan y Bwrdd yn flynyddol ac fe wneir gwelliannau i'r polisi yn ôl yr angen.
Cwynion ac awgrymiadau ar gyfer gwelliannau
Dylid anfon cwynion am y polisi hwn neu awgrymiadau ar gyfer gwelliannau at: Y Cyfarwyddwr/Prif Weithredwr
Cydymffurfio Gweithredol
Cyfrifoldeb y Cyfarwyddwr / Prif Weithredwr yw'r polisi hwn. Mae cydymffurfiad gweithredol â'r polisi yn gyfrifoldeb i'r Swyddog Cyfathrebu (Iaith Gymraeg).