Cod Ymddygiad
Mae Chapter yn ganolfan genedlaethol o safon fyd-eang ar gyfer diwylliant a chelfyddydau cyfoes. Mae’n lle sy’n ysgogi ac yn cefnogi arfer artistig creadigol i ysbrydoli pawb i ymgysylltu’n ddwfn â’r celfyddydau.
Tra byddwch ar ein safle, rydyn ni am i chi deimlo’n ddiogel, wedi’ch parchu, a bod modd i chi fwynhau eich profiad gyda ni. Darllenwch ein Cod Ymddygiad sefydliadol; rydyn ni’n gofyn i’n staff, ymddiriedolwyr, gwirfoddolwyr, artistiaid, cydweithredwyr ac ymwelwyr ei ddilyn.
Boed ar y safle, ar ein llwyfannau ar-lein, neu mewn prosiect oddi ar y safle wedi’i drefnu ganddon ni, rydyn ni am i chi deimlo’n ddiogel ac wedi’ch croesawu. Gofynnwn i chi fod yn garedig, yn gwrtais, parchu eraill, a chydnabod nad yw profiadau pawb yr un fath.
Fyddwn ni ddim yn goddef gwahaniaethu o unrhyw fath, ac mae hyn yn cynnwys defnyddio iaith neu ddeunyddiau ymosodol, hiliol, rhywiaethol, misogynistaidd, homoffobaidd, trawsffobaidd, neu sy’n gwahaniaethu ar sail gallu neu oedran.
Ystyriwch eich breintiau a’r ffaith efallai na fyddai pobl eraill wedi profi’r un manteision â chi. Meddyliwch am y rhwystrau gweladwy ac anweledig sy’n bodoli i bobl heb freintiau penodol, a chydnabyddwch sut gallai eich braint chi waethygu’r rhwystrau hyn.
Mae Chapter yn gweithio i gynnwys, ac i beidio â gwahaniaethu. Dydyn ni ddim yn goddef unrhyw fath o wahaniaethu uniongyrchol nac anuniongyrchol yn seiliedig ar rywioldeb, rhywedd, hil, anabledd, statws economaidd gymdeithasol, oedran, maint, na chrefydd.
Cofiwch y gallai pobl wynebu cyfyngiadau gweladwy ac anweledig oherwydd nifer o ffactorau, a weithiau cyfuniad ohonynt. Dylech drin pawb fel unigolyn, a pharchu anghenion eraill. Myfyriwch ynghylch eich rhagfarnau diarwybod eich hunan, a gweithiwch yn erbyn y rhain.
Cofiwch fod pobl yn defnyddio gwahanol dermau i ddisgrifio eu hunain mewn perthynas â hil, rhywedd, dosbarth ac anabledd ymhlith pethau eraill. Os nad ydych chi’n sicr sut i gyfeirio at rywun, peidiwch â gwneud rhagdybiaethau a gofynnwch iddyn nhw beth fyddai orau ganddyn nhw. Parchwch yr hawl i hunanddisgrifio.
Gwnewch le ar gyfer trafodaeth a dadl agored, a pharchwch bobl sydd â phrofiadau neu farn wahanol. Byddwch yn agored i adborth, i fod yn anghywir, ac i ddysgu.
Dylech drin pawb â pharch ac ystyriaeth. Oni bai y gwahoddir chi i wneud hynny, peidiwch â mynd i ofod personol neu emosiynol pobl eraill. Cofiwch efallai na fydd y ffiniau yma yr un fath â’ch rhai chi. Gofynnwch am ganiatâd bob tro, ac os bydd rhywun yn dweud ‘na’, stopiwch. Ymdrechwch i wirio bod pobl eraill yn iawn, er mwyn gwneud yn siŵr eu bod nhw’n ddiogel ac wedi’u cefnogi.
Rydyn ni’n ceisio gwneud ein lleoliad a’n rhaglen yn hygyrch i bobl o bob cefndir. Mae llawer o rwystrau rhag mynediad, ac rydyn ni’n gweithio gyda’n cymunedau i’w deall ac i fynd i’r afael â nhw.
Rydyn ni’n ymroddedig i ddatrys problemau yn gyflym ac yn effeithiol, i gynnal perthnasau cadarnhaol ac amgylchedd diogel i bawb.
Ni chaniateir aflonyddu rhywiol, ymddygiad ymosodol, hiliaeth, misogynistiaeth, homoffobia, trawsffobia, culni neu gasineb at grefydd, na gwahaniaethu o unrhyw fath. Os canfyddir bod rhywun yn cyflawni gweithredoedd o’r fath, byddant yn cael eu symud o’r safle.
Os byddwch chi’n gweld neu’n profi sylw, cyswllt, bwlio, aflonyddu, gwahaniaethu neu ymddygiad digroeso o unrhyw fath sy’n gwneud i chi deimlo’n anghyfforddus, rhowch wybod i’n staff ar unwaith.
Bydd yr aelod o staff yn hysbysu’r Arweinydd Diogelu ymhen 24 awr. Bydd y Arweinydd Diogelu yn cofnodi ac yn olrhain y gŵyn yn ffurfiol ymhen 48 awr o’r digwyddiad.Mae Cod Ymddygiad Chapter yn berthnasol i bawb sy’n defnyddio’r ganolfan gelfyddydau neu sy’n mynd i unrhywbrosiectau Chapter oddi ar y safle. Os hoffech rannu adborth, cysylltwch â ni drwy enquiry@chapter.org.
Cyhoeddwyd y Cod Ymddygiad yma ym mis Tachwedd 2021 ac yn cael ei adolygu bob chwe mis.