
Swyddi a Chyfleuoedd
Rydyn ni’n diogelu gweithle sy’n rhydd rhag pob math o wahaniaethu ac yn hyrwyddo tegwch ar draws ein sefydliad. Rydyn ni wedi’n ffurfio ar sail cyfraniadau gwerthfawr, gwybodaeth a phrofiad yr holl staff, gwirfoddolwyr ac ymddiriedolwyr, ac rydyn ni’n annog pawb sydd â diddordeb mewn gyrfa neu gyfle creadigol i ddilyn ein Cod Ymddygiad.
Rydyn ni’n ganolfan i bawb, ac rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan bawb. Mae ein gweithdrefn ymgeisio yn ddienw.
Rydyn ni’n gyflogwr cefnogol a chyfeillgar, ac yn cynnig oriau gweithio hyblyg a gweithio hybrid lle bo’n bosib. Rydyn ni’n gyflogwr cyflog byw ac mae ein buddion staff yn cynnwys:
- 5.6 wythnos o wyliau y flwyddyn, gan gynnwys gwyliau banc, pro rata ar gyfer swyddi rhan amser
- Cinio am ddim pan fyddwch yn gweithio yn yr adeilad
- Dau docyn sinema am ddim y mis
- Gostyngiad ar docynnau sinema a theatr
- 20% oddi ar fwyd a diod yn y Caffi Bar
- Cynllun Cymraeg Gwaith
- Cynllun pensiwn cyfrannol, y byddwch yn cael eich ymrestru iddo’n awtomatig (yn dibynnu ar amodau’r cynllun). Mae’r cynllun yn eich galluogi i gynilo ar gyfer eich ymddeoliad gan ddefnyddio eich arian eich hunan, ynghyd â rhyddhad treth a chyfraniadau gan Chapter
- Tâl mamolaeth a mabwysiadu uwch ar ôl blwyddyn o wasanaeth
- Mynediad at Raglen Cynorthwyo GweithwyrTe/coffi am ddim o’r Caffi Bar
- Cefnogaeth ar gyfer datblygiad parhaus
- Gofal Llygaid ar gyfer Gwaith Cyfarpar Sgrin Arddangos
- Rheseli beiciau diogel
- Parcio i staff
Mae’r holl ddisgrifiadau swydd i’w gweld yn llawn fel ffeil i’w lawrlwytho isod.
Mae pob croeso i unrhyw gwestiynau am unrhyw swydd neu gyfle, a gallwch eu hanfon at apply@chapter.org.
Er mwyn gwneud cais am un o’n swyddi, llenwch y ffurflen gais, y gallwch ei lawrlwytho isod, a’i dychwelyd i apply@chapter.org. Llenwch ffurflen Cyfle Cyfartal a’i chyflwyno cyn y dyddiad cau.
Ymddiriedolwyr
Holi ac atebion ar-lein: 9 & 23 Ebrill
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 14 Mai
Cyfweliadau: 26-30 Mai
Diben y swydd
Dyma adeg gyffrous i ymuno â’n sefydliad. Dros y flyneddoedd ddiwethaf, rydyn ni wedi mabwysiadu model busnes sy’n cael ei hysbysu gan y gynulleidfa. Mae’r syniad o gymuned bellach wedi’i wreiddio yn yr holl waith rydyn ni’n ei wneud; dyma yw ein man cychwyn wrth geisio deall diwylliant, rhaglennu, y lleoliad, a phopeth arall. Rydyn ni’n ymroddedig i weithio mewn ffyrdd hirdymor a thrawsnewidiol, i sicrhau ein bod ni’n sefydliad sy’n gweithredu ar sail anghenion heddiw, ac sy’n gwneud lle ar gyfer dyfodol i bawb.
Rydyn ni’n chwilio ar hyn o bryd am sawl unigolyn sy’n gallu cynnig dealltwriaeth a safbwyntiau newydd drwy eu profiadau byw a phroffesiynol. Mae’r ymddiriedolwyr yn rhan hanfodol o’n sefydliad ac yn cynnig mewnwelediadau hanfodol sy’n ein helpu ni i ofyn ac i ateb cwestiynau ac yn dal ni’n atebol yn ein penderfyniadau ac ymrwymiadau.
Chapter Queer Film Prize 2025
Fis Mehefin, rydyn ni’n dathlu’r ffilmiau byrion LHDTCRhA+ gorau a wnaed yng Nghymru. Mae Chapter yn bartner enwebu ar gyfer Ffilm Fer Orau Prydain yr @irisprize, ac rydyn ni’n chwilio am ffilm fer LHDTCRhA+ i’w henwebu o’n rhanbarth ni.
Bydd y ffilmiau ar y rhestr fer yn cael eu dangos mewn dangosiad arbennig MovieMaker Chapter ar 4 Mehefin, a bydd y ffilm sy’n cael ei dewis gan Chapter yn rhan o raglen Goreuon Prydain yng Ngŵyl Gwobrau Iris ac yn cael ei dangos ar Channel 4 a Film4.
Dyddiad cau: Dydd Llun 19 Mai
Mwy o wybodaeth
-
Amdanom
Sefydlwyd ni gan artistiaid ym 1971, ac rydyn ni’n ganolfan ryngwladol ar gyfer y celfyddydau cyfoes a diwylliant.
-
-
Cod Ymddygiad
Tra byddwch yma, rydyn ni am i chi deimlo’n ddiogel, wedi’ch parchu, a bod modd i chi fwynhau eich profiad gyda ni.
-