i
Bright yellow cafe wall in Chapter Arts Centre. Multiple colourful frames hang on the yellow wall, each reading different painted bold text. The cafe is busy with people sat at each table.

Bwyd + Diod

Mae ein caffi bar golau ac agored yn agor bob dydd am 8.30am ac mae ein bwydlen yn dechrau am 9am. Mae ein bar ar agor yn hwyr ac rydyn ni’n gweini amrywiaeth o fyrbrydau cartref blasus drwy gydol y nos.

Pan fyddwch chi’n bwyta ac yn yfed yma, chi’n cefnogi’r holl waith creadigol, cymunedol rydyn ni’n ei wneud yn uniongyrchol.

Dyma'r lle perffaith i brofi Celf yn y Caffi gyda'ch coffi, i fachu rhywbeth blasus cyn dangosiad prynhawn, neu i sgwrsio gyda ffrindiau dros rywbeth i'w rannu. Rydyn ni hefyd yn cynnig bwyd i fynd, pan fyddwch chi ar fwy o frys.

Os byddwch chi’n aros, mae ein cysylltiad di-wifr cyflym am ddim yn golygu mai dyma’r lle perffaith i astudio, i weithio neu i’w ddefnyddio fel swyddfa answyddogol.

Os yw’r tywydd yn braf, mae gardd gwrw hyfryd gyda ni, sydd dan do yn ystod misoedd y gaeaf, gyda gwresogyddion i’ch cadw’n glyd pan fydd hi’n oeri.

  • Ymweliad

    Rydyn ni’n ymroddedig i wneud ein lleoliad yn hygyrch i bawb.

  • Pantri Cymunedol

    Mae ein Pantri Cymunedol yn ffordd fach i ni allu rhoi ’nôl i’r bobl ar garreg ein drws sy'n cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd.

  • Ein Gardd Cymunedol

    Rydyn ni’n falch iawn o’n gardd gymunedol hyfryd, ac yn ddiolchgar am sgiliau a chefnogaeth ein garddwyr gwirfoddol.