i

Diolch yn fawr i bawb wnaeth rhoi yn ystod ein ymgyrch Big Give! Rydyn ni wedi llwyddo i godi £8,766 i roi tuag at Deaf Gathering Cymru 2025.

A dimly lit, full cinema. Two people are stood on stage in front of the cinema screen talking to the audience. Behind the speakers is a still image from the Barbie Movie.

Sinema

Dewch i’n sinemâu i ddarganfod eich hoff ffilm newydd neu aild­dar­ganfod ffilm glasurol, a phrofi sinema gwbl unigryw!

Rydyn ni’n arwain y maes sinema annibynnol yng Nghymru, gan gyflwyno’r ffilmiau gorau o Gymru, gwledydd Prydain ac yn rhyngwladol.

Ochr yn ochr â ffilmiau newydd, rydyn ni’n cyflwyno ystod o wyliau ffilm a thymhorau wedi’u curadu, gyda sgyrsiau, sesiynau holi ac ateb a digwyddiadau sy’n helpu i ysbrydoli creadigrwydd ymhlith ein cynulleidfa ac i sicrhau bod ganddon ni i gyd ddealltwriaeth ddyfnach o’r broses creu ffilmiau a mewnwelediad i’r diwydiant ffilm ffyniannus yma yng Nghymru.

Rydyn ni’n falch o fod yn Ganolfan Ffilm ar gyfer Cymru, yn un o wyth o ganolfannau ffilm ledled gwledydd Prydain a ffurfiwyd fel rhan o Sefydliad Ffilm Prydain: Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm. Drwy Ganolfan Ffilm Cymru, rydyn ni’n cyflwyno mwy o ffilmiau, i fwy o bobl, mewn mwy o lefydd ledled y wlad.

Mwy o wybodaeth