Ymweliadau a theithiau grŵp

Rydyn ni ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sul 11am-5pm, ac yn croesawu grwpiau i’n horiel. Os oes 10 neu fwy o bobl, neu os hoffech drefnu cyflwyniad i’r arddangosfa am ddim i’ch grŵp, rhagarchebwch bythefnos cyn eich ymweliad gan ddefnyddio’r ffurflen isod.

Nodwch fod yr oriel ar gau ar ddydd Llun. Os mai dyma’r diwrnod delfrydol i chi ymweld, gallwn geisio darparu ar gyfer eich grŵp, ond ni fydd hyn bob amser yn bosib. Mae dyddiadau a manylion ein harddangosfeydd ar gael drwy www.chapter.org.