Oriel

Mae Oriel Chapter ar agor ddydd Mawrth i dydd Sul, 11yb — 5yp.

Rydyn ni’n comisiynu ac yn cyflwyno arddangosfeydd a digwyddiadau sy’n ysgogi’r meddwl gan artistiaid cyfoes, sy’n ehangu ein bydolwg ac yn herio’r status quo. Gan groesawu safbwyntiau niferus ac amrywiol, cymryd risgiau ac arbrofi, mae ein rhaglen yn cwmpasu pob ffurf ar gelfyddyd, gan gynnwys y celfyddydau gweledol, celf fyw a delweddau symudol, gan annog trawsffrwythloni rhwng ffiniau a disgyblaethau.

Gyda bydolwg rhyngwladol a’n gwreiddiau yng Nghymru, rydyn ni’n gweithio gydag artistiaid lleol a byd-eang. O gyflwyniadau unigol ac arddangosfeydd grŵp, i breswylfeydd ac ymyriadau artistiaid, rydyn ni’n cydweithio gydag artistiaid ar bob cam o’u gyrfa, gan eu cefnogi i wireddu syniadau mentrus a ffyrdd newydd o weithio.

Mae’r artistiaid rydyn ni’n gweithio gyda nhw yn mynd ati i ystyried materion a chwestiynau hanfodol sy’n siapio ein presennol, ac rydyn ni’n meithrin deialog rhwng cynulleidfaoedd, artistiaid a’u harfer drwy raglen gyhoeddus sy’n cynnig cyfleoedd i gysylltu, (dad)ddysgu a myfyrio ar ein hanes, y ffordd rydyn ni’n byw nawr, a sut gallen ni ddychmygu dyfodol newydd.

___

Hygyrchedd

Mae mynediad gwastad gan yr Oriel, ac mae ein holl arddangosfeydd yn cael eu cynllunio i fod yn gwbl hygyrch i gadeiriau olwyn.

Cyflwyniad i Oriel Chapter

Arddangosfeydd diweddar