Bwyd + Diod
Mae ein caffi bar golau ac agored yn agor bob dydd am 8.30am ac mae ein bwydlen brecinio lawn yn dechrau am 9am. Mae’r gwasanaeth bwyd yn dod i ben am 6pm, ond mae ein bar ar agor yn hwyr ac rydyn ni’n gweini amrywiaeth o fyrbrydau cartref blasus drwy gydol y nos.