Sinema
Dewch i’n sinemâu i ddarganfod eich hoff ffilm newydd neu ailddarganfod ffilm glasurol, a phrofi sinema gwbl unigryw!
Rydyn ni’n arwain y maes sinema annibynnol yng Nghymru, gan gyflwyno’r ffilmiau gorau o Gymru, gwledydd Prydain ac yn rhyngwladol.
Ochr yn ochr â ffilmiau newydd, rydyn ni’n cyflwyno ystod o wyliau ffilm a thymhorau wedi’u curadu, gyda sgyrsiau, sesiynau holi ac ateb a digwyddiadau sy’n helpu i ysbrydoli creadigrwydd ymhlith ein cynulleidfa ac i sicrhau bod ganddon ni i gyd ddealltwriaeth ddyfnach o’r broses creu ffilmiau a mewnwelediad i’r diwydiant ffilm ffyniannus yma yng Nghymru.
Rydyn ni’n falch o fod yn Ganolfan Ffilm ar gyfer Cymru, yn un o wyth o ganolfannau ffilm ledled gwledydd Prydain a ffurfiwyd fel rhan o Sefydliad Ffilm Prydain: Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm. Drwy Ganolfan Ffilm Cymru, rydyn ni’n cyflwyno mwy o ffilmiau, i fwy o bobl, mewn mwy o lefydd ledled y wlad.
Sinema hygyrch
Mae sinema i bawb. Gallwch wylio dangosiadau â chapsiynau yma bob dydd, dod â’ch babi i ddangosiadau Sgrechiwch fel y Mynnwch bob dydd Gwener i weld ffilmiau newydd mewn amgylchedd sy’n addas i blant, ac rydyn ni’n cynnal Dangosiadau Ymlaciol bob wythnos i’r rhai sydd angen amgylchedd lle mae’n iawn i’r gynulleidfa wneud sŵn neu symud!
Rydyn ni’n cefnogi addysg ffilm, gan arwain BFI Film Academy yng Nghymru, ac rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau yn aml i annog datblygu doniau. Mae hyn yn cynnwys MovieMaker misol Chapter, sy’n edrych ar ffyrdd i mewn i’r diwydiant i artistiaid a gwneuthurwyr ffilm ifanc a newydd.
Mae gan Sinema 1 lifft risiau, sy’n golygu bod mynediad di-risiau at y sgrin. Pan fyddwch yn y sinema, y rhes gefn o seddi yw’r seddi hygyrch pwrpasol, sy’n sicrhau mynediad di-risiau drwy gydol eich profiad sinema.
Mae gan Sinema 2 fynediad di-risiau, gyda llethr bach tuag at gefn y sinema. Yn y sinema yma, y rhes flaen o seddi yw’r seddi hygyrch pwrpasol, gan sicrhau mynediad di-risiau drwy gydol eich profiad sinema.
Pori’r rhaglen, prynu tocynnau a chynllunio eich dydd gyda ni.
Gweld beth sydd ymlaen-
Hygyrchedd a chyfleusterau’r adeilad
Y wybodaeth ddiweddaraf ar sut i archebu, prisiau tocynnau, a’n telerau ac amodau newydd ar gyfer tocynnau.
-
-
Cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio
Gallwch gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen, canllawiau ffilm a bargeinion arbennig drwy’r rhestr bostio.
-
Canolfan Ffilm Cymru
Film Hub Wales (FHW) aims to bring more films, to more people, in more places around Wales. Chapter is proud to be the Film Hub lead organisation for Wales.