A man stands with his hands in his pockets in front of Film Hub Wales posters and poses for a camera.

Canolfan Ffilm Cymru

Nod Canolfan Ffilm Cymru (FHW) ydy dar­parurhagor o ffilmiau, i ragor o bobl, mewn rhagor o leoedd o amgylch Cymru. Mae Chapter yn falch o fod yn sefydliad arweiniol Canolfan Ffilm Cymru

Mae Canolfan Ffilm Cymru yn dathlu sinema. Mae tîm ein Canolfan yn ariannu, yn hyfforddi ac yn cynghori sefydliadau sy’n dangos ffilmiau, o wyliau ffilm, i gymdeithasau, i ganolfannau celfyddydau cymysg. Gan weithio gyda dros 300 o arddangoswyr yng Nghymru, nod y Ganolfan yw cyflwyno’r gorau o fyd ffilm Prydain a’r byd i bob cynulleidfa ledled Cymru a Phrydain.

Mae Canolfan Ffilm Cymru yn un o wyth canolfan sy’n ffurfio Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm Sefydliad Ffilm Prydain, a ariennir gan y Loteri Genedlaethol.

Canolfan Ffilm Cymru sydd hefyd yn arwain ar gynllun Gwnaethpwyd yng Nghymru, sef prosiect a ddatblygwyd i ddathlu ffilmiau sydd â chysylltiadau â Chymru, ac roedd yn falch o reoli strategaeth Sinema Gynhwysol y DU ar ran Rhwydwaith Cynulleidfa Ffilm Sefydliad Ffilm Prydain 2017-23.

Dysgu mwy

Mae Canolfan Ffilm Cymru wedi cefnogi dros 310 o brosiectau sinema ers 2013, gan gyrraedd dros 558,000 o aelodau cynulleidfa. Cymerwch olwg ar rai o’r uchafbwyntiau hyd yma.

Ymunwch â'r Ganolfan

Os yw eich sefydliad yn dangos ffilmiau i gynulleidfa gyhoeddus, gallwch ymaelodi i elwa ar ymchwil, cyrsiau hyfforddi, bwrsariaethau, cronfeydd datblygu cynulleidfa, cyngor a mwy.

Os ydych chi’n creu ffilmiau, cymerwch olwg ar y daflen gymorth i wneuthurwyr a dosbarthwyr ffilmiau i weld sut gall Canolfan Ffilm Cymru hyrwyddo eich ffilm i’w rhwydwaith arddangos.