BFI Film Academy

Rydyn ni’n darparu dig­wyddiadau, prosiectau a chyfleoedd ar gyfer gwneu­thurwyr ffilm ifanc rhwng 1625 oed ledled Cymru, fel y partner rhanbarthol ar gyfer Academi Ffilm Sefydliad Ffilm Prydain.

Nod y rhain yw eich helpu i ddysgu mwy am ffilm, dod o hyd i’ch llais creadigol, a dechrau eich gyrfa yn y diwydiannau sgrin.

Dyma rai o’r pethau rydyn ni’n eu cynnig drwy gydol y flwyddyn:

  • Arddangosiadau ffilmiau byrion i gyflwyno eich gwaith ar y sgrin fawr
  • Digwyddiadau rhwydweithio i adeiladu eich cysylltiadau
  • Dosbarthiadau meistr a mentora gan weithwyr proffesiynol o’r diwydiant
  • Grantiau i ariannu ffilmiau byrion microgyllid newydd
  • Dangosiadau arbennig gyda chyflwyniadau gwadd a sesiynau holi ac ateb
  • Cymorth rhaglennu os hoffech guradu a/neu gynnal eich digwyddiadau ffilm eich hun

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech ddysgu mwy, anfonwch e-bost at filmacademy@chapter.org.