Two people dressed in black clothing are stood looking at artwork on a wall in Chapter Gallery.

Beth yw Chapter?

Rydyn ni’n ganolfan ar gyfer cynhyrchu a chyflwyno gwaith arloesol, difyr, o safon fyd-eang. 

Mae ein horiel yn comisiynu ac yn cynhyrchu arddangosfeydd o’r gwaith gorau ym maes celf genedlaethol a rhyngwladol. Mae ein gofodau theatr yn llwyfan ar gyfer dramâu, dawns, cerddoriaeth, celf fyw a llawer mwy sy’n arbrofol ac yn ysgogi’r meddwl. Mae ein sinemâu yn cynnig ffilmiau annibynnol a heriol, ochr yn ochr ag ystod o wyliau a digwyddiadau unigryw, ac rydyn ni’n cyflwyno mwy o ffilmiau, i fwy o bobl, mewn mwy o lefydd, drwy Ganolfan Ffilm Cymru.

Ochr yn ochr â’n rhaglen graidd, rydyn ni hefyd yn gartref i fwy na 50 o artistiaid a chwmnïau creadigol sydd wedi’u lleoli yn ein stiwdios. O animeiddwyr a chwmnïau cynhyrchu ffilm sydd wedi ennill gwobrau, i artistiaid, dylunwyr a ffotograffwyr, ac i stiwdios fframio celf, printio, a recordio, mae ein cymuned greadigol wrth wraidd popeth rydyn ni’n ei wneud.

Mae ein rhaglen a’n cymuned yn dod at ei gilydd yn ein caffi bar clodwiw sydd â lle i tua 120 o bobl eistedd, ac mae’n lle gwych i gwrdd â ffrindiau, i ganfod cornel dawel i wneud ychydig o waith oddi cartref, neu i gael tamaid o fwyd a diod ffres a lleol.

Y tu allan, rydyn ni’n falch o weithio gyda Garddwyr Cymunedol Treganna sy’n meithrin ein mannau gwyrdd ac yn rhannu eu gwybodaeth drwy waith allgymorth gydag ysgolion a’n cymunedau lleol. Maen nhw’n gofalu am ein gwenyn hyfryd hefyd!

Mae llawer o bobl yn ymweld â ni wrth fynd i ystod o ddosbarthiadau, gweithdai a digwyddiadau cyffrous sy’n cael eu cynnal gan wahanol fusnesau lleol bob dydd. Rhowch gynnig ar greu printiau, Lindy Hop, Tae Kwando, bale, tap, cerddoriaeth i fabanod, y gerddorfa ieuenctid, a llawer mwy, yn awyrgylch cynhwysol ein safle ymlaciol. Rydyn ni hefyd yn cynnig ystod o ofodau unigryw a rhesymol i’w llogi os ydych chi’n chwilio am safle ffilmio anarferol, lleoliad hygyrch ar gyfer cynhadledd neu gyfarfod, neu rywle i ddathlu achlysur arbennig.

Mae croeso i bawb!

___

Rhif elusen gofrestredig: 500813
Mae Chapter (Caerdydd Cyf) yn gwmni cofrestredig yng Nghymru a Lloegr gyda’r rhif: 01005570
Swyddfa gofrestredig: Heol y Farchnad, Treganna, Caerdydd, CF5 1QE
Rhif TAW: 890977070

Eisiau gweld mwy o bethau digwydd yn Chapter?

Rhoddion yw’r ffordd fwyaf effeithiol o’n helpu ni, gan ein bod ni’n derbyn 100% o’r hyn rydych chi’n ei roi i ni (does dim TAW). Os ydych chi’n drethdalwr yn y Deyrnas Unedig, gallwch hefyd gynyddu gwerth eich rhodd 25% gyda Rhodd Cymorth.

Mae croeso i bob rhodd, boed yn daliad un tro, neu os hoffech drefnu swm rheolaidd. Diolch!